Cymru 1987: Ble maen nhw nawr?

Davies a Evans
Image caption Yr hen elynion yn brwydro'n galed yn Brisbane yn 1987

Cafodd cystadleuaeth gynta' Cwpan y Byd ei chynnal yn Seland Newydd ac Awstralia yn 1987. Daeth Cymru yn drydydd, eu perfformiad gorau hyd yma.

Roedd yna dasg gyfarwydd yn wynebu'r Cymry yn rownd yr wyth olaf yn Brisbane, curo'r hen elyn - y Saeson.

Rheolwr carfan Cymru yn y dyddiau arloesol rheiny oedd Clive Rowlands sydd hefyd wedi bod yn gapten y tîm cenedlaethol ac yn Llywydd Undeb Rygbi Cymru. Bu'n hel atgofion gyda Cymru Fyw am y fuddugoliaeth gofiadwy honno dros Loegr o 16-3.


Ro'dd hi'n garfan glos ac oni'n lwcus fod y grŵp yn un talentog dros ben. Na'th neb roi llawer o siawns i ni fel carfan - hyd yn oed y wasg yng Nghymru. Ond fe aethon ni i Seland Newydd a pherfformio yn dda.

Dim ond un tîm oedd dipyn gwell na ni yno, a'r Cryse Duon oedd rheiny.

Roedd ganddo' ni chwaraewyr fel Paul Thorburn a oedd yn cicio'n arbennig, Adrian Hadley a Ieuan Evans ar yr esgyll, a bois cryf fel John Devereux a'r brodyr Moriarty. Roedd gan Mark Ring yn y canol sgiliau arbennig, ac roedd gan ambell un o'r blaenwyr fel Richie Collins ddwylo da.

Roedd Mark Ring yn gwneud lot oddi ar y cae hefyd, a dwi'n cofio fe a Glenn Webb yn trefnu twrnament pool mas yn Seland Newydd, ac odde nhw'n ei gymryd o ddifri. Thorburn v Davies oedd y ffeinal... ond nid Cliff Thorburn a Steve Davis, ond Paul Thorburn a Phil Davies!

Tony Gray oedd yr hyfforddwr gyda Derek Quinnell yn ei helpu. Ro'n nhw'n gwybod sut i gael y gorau mas o'r bois. Yr amcan cyn y gystadleuaeth oedd i chwarae chwe gêm... nid i ennill yn anghenrheidiol, ond i gyrraedd y rownd gyn-derfynol, ac yna y gêm am y trydydd safle. A dyna ddigwyddodd.

Wna i byth anghofio'r gêm yn erbyn Lloegr. Ro'n i'n cyflwyno tei Cwpan y Byd Cymru i gapten Lloegr Mike Harrison pan 'naeth Paul Moriarty ddechrau canu un o ganeuon John Denver a gweddill y tîm yn ei ddilyn:

"They're Leaving on a Jet Plane - and they're not coming back again'!"

Roedden ni wedi clywed shwd gyment am be oedd Lloegr yn mynd i wneud i ni. Ond mi aeth y bois allan ar y cae a sgorio tri chais heb ymateb... ro'dd hynny yn chwalad! Gob'itho cawn ni ganlyniad tebyg tro hyn!

Image caption Clive Rowlands oedd Rheolwr Cymru yn ystod cystadleuaeth gyntaf Cwpan y Byd yn 1987

Ble maen nhw nawr?

Fe gafodd Cymru Fyw 'chydig o help gan Clive Rowlands i ddarganfod ble mae'r pymtheg arwr drechodd y Saeson yn 1987 erbyn hyn:

15 Paul Thorburn

Ro'dd gan Paul gic anferthol a ma' pawb yn cofio'r gic gosb o 70 llath darodd e rhwng y pyst yn erbyn yr Alban.

Mae e bellach yn ymgynghorydd busnes gyda'i gwmni ei hun.

Image caption Y cefnwr Paul Thorburn

14 Ieuan Evans

Dim ond Shane Williams a Gareth Thomas sydd wedi sgorio mwy o geisiau dros Gymru na Ieuan Evans. Mae e wedi bod yn helpu nifer o gwmniau i hyrwyddo eu gwasanaethau. Mae e hefyd wedi bod yn weithgar yn ceisio denu ymwelwyr i Gymru. Ro'dd e, er enghraifft, yn aelod o bwyllgor Cwpan Ryder 2010.

Bellach mae e wedi sefydlu ei gwmni cyfathrebu a marchnata ei hunan. Mae'n lais cyfarwydd hefyd fel sylwebydd ar raglenni rygbi Sky Sports.

13 John Devereux

Er mai dim ond 21 oed oedd Devereux yn ystod Cwpan y Byd 1987, roedd e'n chwaraewr cryf iawn ac roedd yn enwog am ei hand-off. O ganlyniad cafodd y ffug enw 'Dalek', ac aeth ymlaen i chwarae Rygbi'r Gynghrair yng ngogledd Lloegr.

Erbyn hyn mae'n gwerthu nwyddau fferyllol i'r gwasanaeth iechyd.

Image caption John Devereux, y canolwr pwerus o Bontycymer ger Pen-y-bont

12 Mark Ring

Ro'dd en chwaraewr hynod ddawnus o Gaerdydd gafodd 32 o gapiau dros Gymru rhwng 1983 a 1991. Mark Ring sgoriodd y cais cyntaf erioed dros Gymru yng Nghwpan y Byd.

Bu'n hyfforddwr am gyfnod gyda West Hartlepool cyn dod nôl i Gaerffili i'w harwain i rownd derfynol Tarian Ewrop. Nawr mae'n gweithio yn y byd masnachol.

11 Adrian Hadley

Cais Hadley yn erbyn Awstralia roddodd y cyfle i Paul Thorburn sicrhau'r pwyntiau oedd eu hangen i guro Awstralia yn y gêm am y trydydd safle. Aeth yntau yn ei flaen i chware Rygbi'r Gynghrair 'da Salford a Widnes.

Y dyddiau 'ma mae'n Ddirprwy Brif Weithredwr St David's Hospice Care yn y De-Ddwyrain.

10 Jonathan Davies

Fel Phil Bennett a Barry John o'i flaen, dyma un o faswyr hudolus hanes rygbi Cymru. Ar ôl disgleirio i Lanelli a Chastell-nedd aeth yn ei flaen i chware Rygbi Tri-ar-ddeg i Widnes yn 1989. Fe oedd chwaraewr drutaf y gamp ar y pryd.

Ar ôl cyfnod yn Warrington ac Awstralia, daeth yn ôl i Gaerdydd i ddiweddu ei yrfa yn y gêm bymtheg dyn. Ers hynny mae e wedi cael gyrfa lwyddiannus fel sylwebydd uchel ei barch i'r BBC a chyflwyno rhaglen 'Jonathan' ar S4C.

Image caption Y maswr dawnus o Trimsaran, Jonathan Davies

9 Robert Jones

Fe briododd e fy merch Megan. Y dyddiau 'ma mae'n gweithio fel Cyfarwyddwr Rhanbarthol i gwmni ariannol Thomas Carroll. Mae e hefyd yn gweithio i'r cyfrynge, gan gynnwys BBC Radio 5 Live, fel sylwebydd ar gemau rygbi.

Image caption Robert Jones yn clirio'r bêl yn erbyn Awstralia

1 Jeff Whitefoot

Enillodd Jeff 19 o gapiau dros Gymru. Ro'dd disgw'l iddo gael ei enwi yng ngharfan y Llewod yn 1986 ond cafodd y daith i Dde Affrica ei chanslo oherwydd protestio yn erbyn y gyfundrefn apartheid. Roedd e'n gweithio yn y pylle glo pan yn ifanc, cyn hyfforddi i fod yn drydanwr.

Image caption Jeff Whitefoot, aelod allweddol o reng flaen Cymru yng Nghwpan y Byd 1987

2 Kevin Phillips

Roedd y ffermwr yn gapten ar Gastell-nedd yn ystod cyfnod euraidd 'crysau duon Cymru'. Roedd yn gapten ar Gymru ar y daith i Namibia yn 1990 pan enillodd Cymru y ddwy gêm brawf. Cafodd 20 o gapiau rhwng 1987 a 1991. Heddiw mae'n parhau i ffermio yn Hermon ger Aberteifi.

3 Stuart Evans

Ro'dd Stuart yn un o'r bechgyn aeth i ogledd Lloegr ar ôl Cwpan y Byd i chwarae Rygbi'r Cynghrair i St Helen's. Ro'dd e'n brop hynod bwerus, ac wedi iddo gwpla chwarae daeth yn dafarnwr. Ro'dd gan ei rieni dafarn yn agos i'r Gnoll yng Nghastell-nedd, ac roedd e'n gyfrifol am dafarn yn Sgiwen hefyd.

Erbyn hyn mae'n ôl ym mhen draw'r byd fel o'dd e 'da ni yn 1987. Mae'n gyfarwyddwr cwmni brodwaith a phrintio yn Auckland, Seland Newydd.

4 Richard Moriarty (Capten)

Fe oedd y capten yn 1987. Enillodd 23 cap dros ei wlad. Heddiw mae e'n reolwr ar ei gwmni gwasanaethau trydanol ei hun - yn Abertawe. Rwy'n siwr bydd e'n gob'ithio y bydd ei nai Ross, mab ei frawd Paul, yn cael cyfle i 'neud ei farc yn ystod y twrnament 'leni.

Image caption Richard Moriarty (canol) yn aros am y bêl o'r linell yn erbyn Lloegr

5 Robert Norster

Yn gawr yn y llinell, chwaraeodd Norster 34 o weithiau dros Gymru a bu ar ddwy o deithiau'r Llewod. Fe oedd Prif Weithredwr cyntaf rhanbarth y Gleision. Yn 2012 daeth yn gyfarwyddwr ar Engagesport, cwmni rheoli chwaraeon.

Image caption Robert Norster

6 Gareth Roberts

Roedd Roberts yn cael ei adnabod fel 'Ming the Merciless' yn ystod ei ddyddiau yn chwarae dros Gaerdydd oherwydd ei handle-bar moustache. Dim ond saith gwaith y dechreuodd gêm dros Gymru ond fe gafodd ddau gais yn ystod ymgyrch Cwpan y Byd 1987. Heddiw mae'n gweithio fel fferyllydd yn Dafen ger Llanelli.

7 Richie Collins

Roedd Richie yn chwareawr pel-fasged rhyngwladol, ac yn flaen asgellwr dawnus tu hwnt a'r gallu ganddo i ddarllen y gêm yn dda. Cafodd 28 o gapiau dros Gymru rhwng 1987 a 1994. Plismon oedd e pan r'odd e'n chwarae, ond ar ôl ymddeol fe sefydlodd e gwmni sy'n cludo plant anabl i'r ysgol.

Image caption Richie Collins

8 Paul Moriarty

Brawd bach y capten, Richard, roedd Paul yn redwr cryf a phwerus. Aeth yntau i chware Rygbi'r Gynghrair i Widnes a Halifax. Fe fuodd e'n hyfforddi Caerloyw a'r Scarlets. Nawr mae nôl yn ei filltir sgwar yn hyfforddi Treforus.


Gallwch glywed rhagor o atgofion Clive Rowlands yn y gyfres Shorts Huw ar BBC Radio Cymru

Hefyd ar y BBC