Claf wedi ei barlysu wedi pwl o epilepsi
- Cyhoeddwyd

Mae cwest yn Aberdâr wedi clywed bod dyn awtistig ag anawsterau dysgu ac yn dioddef o epilepsi wedi ei barlysu ar ôl cwympo yn yr ysbyty.
Yn ôl teulu Stephen Davies, fe fethodd staff yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, â rhoi triniaeth i anaf i'w wddw yn ddigon buan.
Bu farw Mr Davies o Faesteg dri mis yn diweddarach o haint ar ei frest a chymhlethdodau yn sgil yr epilepsi.
Cofnododd y crwner cynorthwyol, y Dr Sarah Richards, reithfarn naratif a dywedodd fod pwl o epilepsi wedi arwain at ei barlysu.
Clywodd y cwest fod y dyn 46 oed wedi cael diagnosis o epilepsi pan oedd yn 11 oed a'i fod yn cael pyliau rheolaidd.
40 mlynedd
Bum mlynedd yn ôl cafodd ddiagnosis o awtistiaeth ond roedd ei deulu yn credu bod y cyflwr arno dros gyfnod o 40 mlynedd.
Fe aeth i Ysbyty Tywysoges Cymru ar 19 Medi, 2014, gydag anhwylder ar ei stumog.
Dywedodd chwaer Mr Davies, Christine Davies, iddi ymweld ag e yn yr ysbyty.
Mewn datganiad dywedodd fod staff wedi dweud bod Stephen wedi cwympo ac anafu ochr ei wyneb.
"Roedd ei wyneb wedi chwyddo'n fawr, roedd yn sgrechen fod ei wddw'n brifo," meddai'r datganiad.
"Ni roddwyd dim ar ei wddw - roedd y staff yn poeni mwy am ei byliau epilepsi."
Dim teimlad
Roedd ei brawd, meddai, mewn coma am bythefnos a pan ddeffrodd doedd ganddo ddim teimlad yn ei goesau na'i freichiau.
"Dywedodd ymgynghorydd wrth y teulu nad oedd dim byd y gallen nhw ei wneud - roedd wedi ei barlysu."
Pan ofynnodd y crwner i'r ymgynghorydd gofal dwys, Dr Richard Self, a fyddai newid y drefn yn gwella'r sefyllfa dywedodd fod trosglwyddo gwybodaeth o shifft i shifft yn her.
Hwn oedd y man gwan yn y system, meddai, gan fod yr wybodaeth yn gymhleth a staff yn aml yn ffaeledig.