Cynlluniau £16m ar gyfer gwasanaethau niwrolegol
- Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau gwerth £16m ar gyfer ysbyty arbenigol niwrolegol wedi eu cymeradwyo gan Llywodraeth Cymru.
Bydd gwasanaethau arbenigol niwrolegol ac adsefydlu'r cefn yn Ysbyty Rookwood yn symud o Landaf i uned newydd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau erbyn 2017.
A bydd gwasanaethau gofal i'r henoed yn symud i Ysbyty Dewi Sant yn Nhreganna.
Yn ôl Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, bydd y symudiad yn darparu "gwasanaeth cwbl fodern sy'n canolbwyntio ar y claf".
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r buddsoddiad yn golygu y gall Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wella gofal i gleifion oherwydd bydd gwasanaethau ar safle ysbyty gyda chysylltiadau â gwasanaethau arbenigol eraill.
Dywedodd Marie Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Chynllunio'r bwrdd iechyd, fod safle Rookwood yn "hen iawn ac nid yw'n diwallu anghenion gofal cymhleth a modern ...".
Ychwanegodd y byddai'r cyfleusterau newydd yn rhoi'r cyfle gorau posibl i gleifion wella ac i staff ddarparu'r gofal gorau posib.
Dywedodd Mr Jones: "Mae cenedlaethau o bobl o bob rhan o Gymru wedi dibynnu ar staff gweithgar ac ymroddgar Rookwood i'w helpu i wella o anafiadau sydd yn aml yn newid bywydau, o'r milwyr yn dychwelyd o'r Ail Ryfel Byd i'r cleifion sydd yno heddiw.
"Rwy'n falch iawn o allu cymeradwyo cynlluniau cychwynnol ar gyfer buddsoddiad o £16.3m fydd yn caniatáu i'r gwasanaethau hyn gael eu hadleoli i gyfleusterau modern, gan wireddu'r uchelgais o ddarparu gwasanaeth cwbl fodern sy'n canolbwyntio ar y claf."
Bydd y bwrdd iechyd nawr yn datblygu achos busnes llawn i'w gymeradwyo'n derfynol gan Lywodraeth Cymru.