Cwestiynau am ddihangfa llofrudd o ysbyty yn y gogledd
- Cyhoeddwyd

Mae cwestiynau'n cael eu gofyn am sut y gadawodd llofrudd uned seiciatryddol yn y gogledd cyn cael ei ddarganfod yn Llundain nos Fawrth a pham na chafodd pobl wybod am ei ddihangfa na'i gefndir troseddol am dros 24 awr.
Mi fethodd Richard Bracken, 48 oed, â dychwelyd i Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan ar ôl cael caniatâd i adael am awr.
Roedd wedi ei weld ddiwetha' yn gadael yr uned seiciatryddol am 11:35 ddydd Llun.
Mae dedfryd oes Bracken, oedd yn arfer cael ei adnabod fel Richard Dennick, yn parhau wedi iddo lofruddio'r Canon Alun Jones yn Llanberis yn 1982.
Roedd nifer o asiantaethau wedi bod yn chwilio am Bracken yn ardal Llanfairfechan a'r cylch, gan gynnwys hofrennydd yr heddlu a'r Gymdeithas Cŵn Chwilio ac Achub.
Fe ildiodd ei hun yn Llundain nos Fawrth.
Pryder
Mae 'na bryder yn ardal Llanfairfechan fod yr heddlu wedi cymryd dros 24 awr cyn dweud pwy oedd ar goll o'r ysbyty a'r ffaith ei fod yn llofrudd.
Ar raglen Y Post Cyntaf fore Mercher dywedodd y cynghorydd lleol Ray Jones ei fod yn disgwyl y bydd yna ymchwiliad. "Dwi'n hapus iawn i glywed fod yr heddlu wedi dal Bracken yn Llundain a dwi'n siwr y bydd pobl yn y dref yn cysgu'n well heno 'ma na neithiwr," meddai.
"Gobeithio fydd popeth ar y newyddion i ddweud wrth bobl yn y dref ... mae'r sefyllfa wedi newid rwan ac mae Bracken yn nwylo'r heddlu.
"Mae statws yr ysbyty yn dda, yn uchel iawn yn y dref - mae lot o bobl yn gweithio yna a maen nhw'n ymwybodol o'r sefyllfa yn yr ysbyty. Dwi'n siwr y bydd 'na ryw fath o ymchwiliad yn mynd yn ei flaen ar ôl y digwyddiad yma."
'Esboniad'
Mae llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd Darren Miller wedi dweud y bydd angen esboniad llawn maes o law pam fod Richard Bracken wedi cael gadael yr ysbyty bnawn Llun heb fod rhywun yn ei hebrwng, a pham ei bod hi wedi cymryd 24 awr i'r cyhoedd gael gwybod ei fod o ar goll.
Hyd yma nid yw Heddlu Gogledd Cymru na Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwneud sylw ar y mater ar wahan i ddeud eu bod nhw wedi dod o hyd iddo fo.
Straeon perthnasol
- 22 Medi 2015