Batwyr Morgannwg yn rheoli ym Mryste

  • Cyhoeddwyd
Aneurin DonaldFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Dyma'r pumed tro i Aneurin Donald sgorio 50 ond y tro cyntaf iddo basio 70

Fe gafodd James Kettleborough ac Aneurin Donald sgôr orau eu gyrfa wrth i Forgannwg reoli'r diwrnod cyntaf yn erbyn Sir Gaerloyw ym Mryste.

Daeth batiad Jacques Rudolph (17) i ben yn gynnar, ond fe wnaeth Kettleborough (81) a Colin Ingram (30) ychwanegu 71 ar gyfer yr ail wiced.

Fe sgoriodd Kettleborough 66 rhediad arall gyda Donald (91 heb fod allan) cyn cael ei ddal oddi ar fowlio David Payne.

Fe wnaeth Chris Cooke gyfrannu 65 rhediad sydyn wrth i'r glaw ddod â'r chwarae i ben yn gynnar gyda Morgannwg ar 315-4.

Gallai sgôr yr ymwelwyr fod wedi bod yn uwch oni bai am dywydd garw wrth i law olygu bod 19 pelawd wedi'u colli.

Dyma'r pumed tro i Donald, 18 oed, sgorio 50 ond y tro cyntaf iddo basio 70.