'Rhyfel cartref yn anochel' i Lafur, yn ôl cyn-AS

  • Cyhoeddwyd
Jeremy CorbynFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafodd Jeremy Corbyn ei ethol fel arweinydd newydd Llafur gyda bron i 60% o'r bleidlais

Mae rhyfel cartref o fewn y Blaid Lafur yn "anochel," yn ôl cyn-weinidog y Swyddfa Dramor.

Dywed Kim Howells, AS Pontypridd rhwng 1989 a 2010, wrth raglen Week In Week Out fod angen i'r blaid setlo ei rhaniadau cyn gynted â phosib os yw am gael cyfle i ennill etholiad cyffredinol 2020.

Er hyn, mae cydlynydd Llafur Cymru ar gyfer ymgyrch etholiad y Cynulliad, Huw Irranca-Davies, yn mynnu na fydd y frwydr yng Nghymru yn troi'n "sioe Jeremy" gan y bydd Carwyn Jones "yn chwarae rhan allweddol".

Pe bai'n dal yn AS Llafur, dywed Mr Howells y byddai'n gwrthwynebu arweinyddiaeth bresennol y blaid.

Er gwaetha buddugoliaeth Mr Corbyn yn y ras i fod yn arweinydd, dywed Mr Howells fod ennill pleidlais y cyhoedd yn fater gwahanol.

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Kim Howells y gallai'r Blaid Lafur fod allan o bŵer am ddegawdau

Er mwyn ennill, medd Mr Howells, mae angen i'r blaid "ddechrau siarad mewn iaith y gall pobl ei deall, ac argyhoeddi'r cyhoedd" a'i rybudd yw: "Mae rhyfel cartref yn mynd i fod o fewn y blaid yn San Steffan.

'Ddim yn newydd'

"Dyw hyn ddim yn rhywbeth newydd, mae wedi digwydd yn y gorffennol."

"Dydi hi ddim yn ddigon da dweud 'mae'r blaid yn wydn, fe fydd yn ennill eto'. Gallai fod yn ddegawdau cyn i hynny ddigwydd felly rhaid i'r blaid wneud penderfyniad," medd Mr Howells.

"Ydyn nhw wir yn meddwl eu bod yn mynd i ennill eto yn y dyfodol, gyda Corbyn fel yr arweinydd? Dydw i ddim yn meddwl."

Dywed Mr Irranca-Davies, AS Ogwr, na fydd arweinydd newydd y blaid yn cymryd lle Carwyn Jones fel yr un ar flaen ymgyrch etholiad y Cynulliad.

Wrth ymateb i honiadau AS Gŵyr, Byron Davies, y bydd ymweliadau Mr Corbyn i seddi ymylol yn hwb i ymgyrch y Torïaid, dywed Mr Irranca-Davies: "Nid sioe Jeremy yw hon, Carwyn Jones sy'n arwain etholiad y Cynulliad."

Disgrifiad o’r llun,
Dywed Huw Irranca-Davies na fydd ymgyrch y blaid i etholiad y Cynulliad yn troi'n "sioe Jeremy"

Tensiwn

Mae Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, wedi rhybuddio bod tensiwn rhwng yr wrthblaid Lafur yn San Steffan a'r un mewn pŵer yng Nghymru.

"Beth sydd gennym ni yng Nghymru yw meddylfryd llywodraethol," meddai.

"Mae Llafur Cymru wedi bod yn rhedeg y wlad ers 1999 ac mae'r pwysau 'dach chi'n eu hwynebu pan mewn pŵer yn wahanol iawn i'r rhai mae Jeremy Corbyn wedi eu hwynebu fel AS mainc ôl.

"Mae hi'n hawdd rhagweld hynny yn arwain at densiwn."

Dywed llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae'r blaid yn unedig yn ein nod i sicrhau llywodraeth Lafur arall yng Nghymru'r flwyddyn nesaf."

Week In Week Out: Corbyn's Revolution - What Now for Wales?, nos Fercher, 22.35, BBC One Wales