Merched Awstria 3-0 Merched Cymru
- Cyhoeddwyd

Roedd hi'n ddechrau siomedig i'r rheolwr newydd, Jayne Ludlow
Fe gafodd dîm pêl-droed merched Cymru eu trechu 0 3-0 gan Awstria yn St Polten yng ngêm agoriadol eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2017.
Aeth y tîm cartref ar y blaen o beniad Katharina Schiechtl, ond dylai'r eilydd Helen Ward fod wedi unioni'r sgôr yn gynnar yn yr ail hanner.
Fe wnaeth Sarah Puntigam a Nina Burger selio'r fuddugoliaeth i Awstria, sydd nawr ar frig y grŵp.
Roedd hi'n ddechrau siomedig i'r rheolwr Jayne Ludlow yn ei gêm gystadleuol cyntaf fel rheolwr.