Wrecsam 0-0 Grimsby

  • Cyhoeddwyd

Fe ddaeth record 100% Wrecsam ar y Cae Ras i ben nos Fawrth wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Grimsby yn y Gynghrair Genedlaethol.

Aeth Connor Jennings a Dominic Vose yn agos i'r tîm cartref yn yr hanner cyntaf wrth i Jack Mackreth fynd yn agos i'r ymwelwyr.

Fe gafodd Jennings fwy o gyfleoedd yn yr ail hanner, ond fe wnaeth amddiffyn ystyfnig Grimsby sicrhau gêm gyfartal.

Golyga'r canlyniad bod tîm Gary Mills yn parhau'n ddiguro ar y Cae Ras, ac yn aros yn y trydydd safle yn y tabl.