Rygbi: Rhybudd am oedi ar drenau Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
OEDI
Disgrifiad o’r llun,
Roedd na gwyno am yr oedi yng Nghaerdydd cyn y gêm rhwng Iwerddon a Chanada ddydd Sadwrn

Mae cefnogwyr rygbi wedi eu rhybuddio am oedi ar y gwasanaeth trenau wrth i Awstralia wynebu Fiji yng Nghwpan Rygbi'r Byd yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Mae disgwyl y bydd miloedd o gefnogwyr yn heidio i Ganolfan y Mileniwm ar gyfer y gêm am 16:45. Dywed cwmni trenau Arriva Trains Wales y gallai cefnogwyr orfod aros am dair awr ar gyfer trenau yn dilyn y gêm.

Mae Gweinidog Cymru Stephen Crabb wedi dweud wrth benaethiaid dau gwmni trenau i fynd i'r afael a phroblemau gor-lenwi trenau ar ddyddiau gemau Cwpan Rygbi'r Byd.

Rhybuddiodd Mr Crabb benaethiaid Arriva UK Trains a First Great Western fod angen datrys y sefyllfa. Dywedodd: "Mae llawer yn dibynnu ar hyn o ran enw da Cymru ac enw da Caerdydd.

'Enw da'

"Rwy'n credu bod gan Gaerdydd enw fel y ddinas orau yn Ewrop i wylio rygbi ac nid ydym am i unrhyw faterion teithio danseilio'r enw da hwnnw yr ydym wedi ei gael fel dinas ar gyfer digwyddiadau rhyngwladol."

Mae cwmni Arriva Trains Wales wedi cynghori cefnogwyr sydd yn teithio i Gaerdydd o Ben-y-bont, Pencoed, Llanharan, Pont-y-clun a Chwmbrân i ddal y trenau cynharaf posib gan y bydd y trenau'n brysur erbyn iddyn nhw gyrraedd y gorsafoedd hynny.

Bydd sustem giwio'n cael ei gweithredu yng ngorsaf Caerdydd Canolog yn dilyn y gêm, ac fe fydd gwybodaeth ar gael ar wefan Arriva drwy gydol y dydd.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni trenau Arriva ei bod yn disgwyl y bydd tua 35,000 o bobl yn disgwyl teithio'n ôl ar y trenau yn dilyn y gêm.