Gwelliannau gofal mewn dau ysbyty

  • Cyhoeddwyd
gofal

Mae 'na lai o risg o broblemau'n ailgodi mewn gwasanaethau gofal i'r henoed mewn dau ysbyty yn ne Cymru yn dilyn gwelliannau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Fe wnaeth adroddiad annibynnol fis Mai'r llynedd danlinellu pryderon difrifol am sut yr oedd cleifion oedrannus gyda dementia yn cael eu trin yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, sydd dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Ond mae adroddiad yn asesu'r sefyllfa ddiweddaraf sydd wedi'i gyhoeddi ddydd Mercher yn awgrymu y dylai'r cyhoedd fod yn hyderus fod gwelliannau wedi eu gwneud i safon y gofal a'r driniaeth yn yr ysbytai dan sylw.

Argymhellion

Er hynny, dywed yr adroddiad newydd fod angen cwblhau mwy o waith er mwyn cyrraedd wyth allan o'r 14 argymhelliad yn yr adroddiad gwreiddiol.

Dywed yr adroddiad bod angen gwneud gwelliannau i nifer o agweddau gofal, gan nodi mai:

  • Dim ond gwelliannau bychain sydd wedi bod wrth adolygu sut y mae wardiau wedi cael eu dylunio i gynnig gofal i bobl gyda dementia, deliriwm, a chyflyrau tebyg eraill;
  • Nid yw'r bwrdd iechyd wedi gweithredu cynllun hyfforddi i uwch reolwyr meddygol gan arbennigwyr o du allan i'r ddau ysbyty, ac mae angen gwneud hyn ar frys;
  • Mae angen hyfforddiant penodol ar gyfer staff sydd wedi eu hyfforddi'n barod mewn cynnig gofal i gleifion oedranus bregus;
  • Mae angen mwy o waith i gynnwys y cyhoedd wrth greu disgwyliadau realistig ar wardiau am y lefel o ofal sydd ar gael pan fod problemau'n codi sydd allan o reolaeth staff.

Yn ôl yr adroddiad diweddaraf, mae'r bwrdd iechyd yn cael ei longyfarch am y "cynnydd ardderchog" wrth sicrhau bod cleifion oedrannus yn cael digon o fwyd a dŵr a sicrhau eu bod yn symud digon yn ystod eu harhosiad, ac mae angen llongyfarch staff am y cynnydd sydd wedi digwydd hyd yn hyn.

Profiadau cleifion

Er hynny mae'r adroddiad yn nodi bod gwahaniaeth ym mhrofiadau cleifion o fewn wardiau a gwasanaethau, yn enwedig yn Ysbyty Tywysoges Cymru, ac mae angen "gwneud mwy" i wella safonnau ac arferion proffesiynol.

Cafodd yr adolygiad gwreiddiol, 'Ymddiried Mewn Gofal', ei arwain gan yr Athro June Andrews, Cyfarwyddwr y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia, Prifysgol Stirling, a Mr Mark Butler, Cyfarwyddwr The People Organisation. Bu'r adolygiad yn canolbwyntio ar ofal cleifion hŷn yn y ddau ysbyty.