Colli 60 o swyddi Barclays yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl y bydd 60 o swyddi Banc Barclays yn cael eu colli mewn dwy ganolfan yng Nghaerdydd, y mwyafrif ohonyn nhw'n diflannu yn 2016.
Mewn datganiad dywedodd Jon Brenchley, pennaeth cysylltiadau corfforaethol Barclays yng Nghymru: "Mae Barclays yn adolygu gofynion lleoliadau ac eiddo'r cwmni yn barhaus i sicrhau fod ein cynrychiolaeth yn cydfynd mor agos â phosib â'n strategaeth fusnes ehangach.
"O ganlyniad i hyn ac o achos gostyngiad yn y gweithlu, mae Gwasanaeth Cefnogi Busnes ag Adfeddiant ynghŷd â Thîm Adfocatiaeth Barclays yn cyfnerthu eu gweithgareddau i leoliad strategol gwahanol ac fe fydd hyn yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2017.
"Rydym wedi bod yn trafod y newidiadau arfaethedig gydag undeb Unite ...
"Drwy gyhoeddi ein cynlluniau, rydym yn gobeithio rhoi cymaint o rybudd â phosib, gan gynnwys cefnogaeth un-i-un er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau posib i staff sydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau."
Mae'r undeb wedi beirniadu penderfyniad y banc i gael gwared ar swyddi. Dywedodd Steve Pantak ar ran yr undeb: "Rydym yn galw ar Barclays heddiw i sicrhau fod staff sydd am aros gyda'r banc yn cael swyddi eraill a'r sicrwydd pendant na fydd mwy o swyddi eraill yn cael eu colli yng Nghymru."