Adnabod corff Dolwyddelan yn ffurfiol

  • Cyhoeddwyd
Alec Warburton
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Alec Warburton ei weld ddiwethaf ar 31 Gorffennaf

Mae corff dyn, gafodd ei ddarganfod ym mhentref Dolwyddelan ddydd Sul, wedi cael ei adnabod yn ffurfiol fel Alec Warburton, 59 oed, o Abertawe.

Roedd wedi bod ar goll o'i gartref yn Heol Vivian, Sgeti, Abertawe, ers 31 Gorffennaf.

Cafodd post mortem ei gynnal ddydd Mawrth ac fe gafodd y corff ei adnabod yn ffurfiol bryd hynny.

Mae marwolaeth Mr Warburton yn cael ei thrin fel achos o lofruddiaeth ac mae Tîm Arbenigol Ymchwiliadau Troseddol Heddlu De Cymru yn ymchwilio.

Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Kath Pritchard o Heddlu De Cymru: "Rydym yn parhau i gynnig cymorth i deulu Alec Warburton ar yr adeg anodd yma."