Targedu gyrwyr sy'n defnyddio ffonau symudol wrth y llyw

  • Cyhoeddwyd
Mae'n anghyfreithlon defnyddio ffôn symudol yn eich llaw wrth yrruFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae'n anghyfreithlon defnyddio ffôn symudol yn eich llaw wrth yrru

Bydd pob un o heddluoedd Cymru'n ceisio taclo gyrwyr sy'n defnyddio ffonau symudol wrth y llyw fel rhan o ymgyrch newydd sy'n cael ei lansio'r wythnos yma.

Heddlu Dyfed-Powys sy'n arwain y gwaith, mewn partneriaeth â Diogelwch y Ffyrdd Cymru, a byddan nhw'n gweithredu'n llym yn erbyn modurwyr sy'n torri'r gyfraith.

Bydd yr ymgyrch - sy'n dechrau ddydd Iau a'n para tan ddydd Mercher 7 Hydref- yn annog gyrwyr i gadw'u "llygaid ar y ffordd" a pheidio â chael eu temtio i ateb ffôn symudol, darllen neges destun neu edrych ar y we. Bydd patrolau heddlu'n cynyddu ardraws Cymru yn ystod y cyfnod.

Yn genedlaethol, mae nifer y modurwyr sy'n defnyddio ffonau symudol i ffonio, tecstio neu fynd ar gyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu ac mae disgwyl i hynny fod yn brif achos marwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd yn 2015.

Yng Nghymru, cafodd dros 900 o fodurwyr eu dal yn defnyddio'u ffonau symudol wrth yrru yn ystod ymgyrch debyg y llynedd.

'Canlyniadau difrifol'

Dywedodd yr Arolygydd Martin Best, o Uned Plismona'r Ffyrdd, Heddlu Gogledd Cymru: "Mae sylw hyd yn oed y gyrrwr mwyaf cymwys neu brofiadol yn gallu cael ei dynnu'n hawdd a gall diffyg canolbwyntio hyd yn oed am hanner eiliad arwain at ganlyniadau difrifol.

"Mae modd osgoi llawer iawn o drasiedïau ar ein ffyrdd - mae ein neges yn glir, cadwch eich llygaid ar y ffordd. Medrwch ymateb i alwadau neu ddarllen negeseuon testun pan fydd hi'n ddiogel a chyfleus gwneud hynny, ond nid wrth yrru."

Dywedodd Susan Storch, Cadeirydd Diogelwch y Ffyrdd Cymru: "Disgwylir i ni gyflawni sawl tasg ar yr un pryd wrth yrru, felly mae angen i unrhyw beth y tu hwnt i hyn aros tan ein bod ni wedi parcio'n ddiogel neu hyd nes y bydd ein taith wedi dod i ben.

"Mae ymgyrchoedd fel hyn yn dangos penderfynoldeb partneriaid Diogelwch y Ffyrdd Cymru i fynd i'r afael â'r mater hwn a byddwn ni'n parhau i gydweithio er mwyn hyrwyddo'r neges o beidio â defnyddio'ch ffôn symudol y tu ôl i'r olwyn. Nid yw'r un alwad na neges destun mor bwysig â hynny."