Dynes wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd

Heidenheim Drive, Newport Image copyright Geograph / Robin Drayton
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4042 yng Nghasnewydd

Mae dynes 64 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri char yng Nghasnewydd nos Fawrth.

Dywedodd Heddlu Gwent bod Volkswagen lliw arian, Vauxhall Astra coch a Hyundai glas wedi bod taro yn erbyn ei gilydd ar yr A4042 am tua 19:50.

Cafodd gyrrwr y Volkswagen, oedd yn dod o Gasnewydd, ei chludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ble bu hi farw'n ddiweddarach.

Fe gafodd y ffordd ei chau tua'r gogledd am ddwy awr tra bod y gwasanaethau brys yn delio gyda'r digwyddiad.

Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r digwyddiad ac yn gofyn i unrhyw un a welodd unrhyw beth i ffonio 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod 430 22/09/15.