Angen 'Cyfiawnder i Gymru,' medd cyfreithwyr
- Cyhoeddwyd

Gallai system gyfreithiol ar wahân i Gymru greu swyddi, dorri costau a gwella'r gwasanaeth, yn ôl grŵp o gyfreithwyr.
Mae'r grŵp, sy'n galw eu hunain yn Cyfiawnder i Gymru, wedi honni bod mwy o ddatganoli yn cefnogi'r ddadl i gael system ar wahân o Loegr.
Dywedodd cyn-farnwr yr Uchel Lys, Syr Roderick Evans, bod polisïau cyfreithiol "sy'n cael eu gwneud yn Lloegr" yn cael eu gweithredu yng Nghymru "os yw'n addas i Gymru neu beidio".
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar y mater o'r blaen.
'Dadl economaidd'
Dywedodd y grŵp, sydd â chefnogwyr o'r holl brif bleidiau, mai Cymru oedd yr unig wlad sydd ddim â "system cyfiawnder ei hun".
Mae Cymru wedi rhannu'r un system gyfreithiol â Lloegr ers bron 500 mlynedd.
"Mae'r ddadl economaidd ar gyfer awdurdodaeth Gymraeg yn gryf ac mae'r ddadl gyfansoddiadol yn un enfawr," meddai'r cyfreithwyr mewn pamffled gafodd ei lansio yn y Cynulliad ddydd Mercher.
Yn 2012 fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones lansio ymgynghoriad ar y syniad.
Ond fe wnaeth Llywodraeth y DU gwestiynu'r angen a'r gost ar gyfer y fath newid.