Cyfle arall i weld 'Anweledig'
- Cyhoeddwyd

Yr actores Ffion Dafis sy'n egluro pam ei bod hi'n mynd â'r fonolog bwerus am iechyd meddwl, Anweledig gan Aled Jones Wiliams, ar daith unwaith eto, dros ddwy flynedd ers iddi wneud argraff fawr yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2013, a pham fod pob ceiniog o elw yn mynd at elusen.
_______________________________________________________________________________________________
Pan y cefais y cyfle i berfformio monolog ddirdynnol Aled Jones Williams ar gyfer y Lle Celf yn Eisteddfod Dinbych ac yna i fynd â hi ar daith o gwmpas Cymru, wnes i erioed feddwl y byddai'r ymateb mor gadarnhaol.
Y mae'n ddarn y mae llawer yn gallu uniaethu â hi ac yn gweithio ar gymaint o lefelau.
Yr un sgwrs sy'n aros yn y cof wedi un perfformiad ydy'r un a gefais efo merch ifanc yn ei thridegau cynnar a ddywedodd wrthai ei bod wedi dioddef o iselder ers blynyddoedd ond yn teimlo nad oedd ganddi'r geiriau na'r gallu i egluro sut yr oedd yn teimlo ac, ar brydiau, o'r herwydd, ei bod yn teimlo ei bod yn mynd yn wallgof.
Dywedodd fod y darn wedi cynnig geiriau iddi a oedd yn rhoi rhyddhad mawr i'w ymennydd. Fe anfonais y sgript iddi. Y mae'n ei darllen yn aml.
I actores, yr oedd cael perfformio hon yn rhodd ac yr oedd cael trin a thrafod efo Aled Jones Williams, ei hun yn rhywun sydd wedi dioddef o'r clefyd yma, yn brofiad y bydda' i'n ei drysori am byth.
Dysgu drama yn India
Ym mis Tachwedd mi fydda' i'n mynd i India i ddysgu drama fel ffurf o ddatblygu iaith a sgiliau cyfathrebu mewn ysgol i blant hynod ddifreintiedig ac yr oeddwn yn edrych am ffordd i gasglu arian ar gyfer y prosiect.
Ar yr un pryd daethom i gyd yn ymwybodol a sefyllfa erchyll y ffoaduriaid ac fel bodau dynol yr oedd yn amhosib peidio cael ein heffeithio gan y lluniau a'r newyddiadura.
Y mae'n bwysig ar amseroedd fel hyn ein bod yn gofyn i ni ein hunain a allwn ni wneud rhywbeth i helpu ac oes gen i rywbeth i'w gyfrannu.
Mi balais i ardal y cof yn fy ymennydd a gweld os oedd rhannau o'r fonolog yn dal i ymlwybro yno ac, er mawr syndod, mi roedd (gobeithiaf!).
Penderfynais drefnu taith fach o bedair canolfan drwy Gymru i gasglu arian ar gyfer y ddau achos. Dwi'n gofyn am bres ond gobeithio yn cynnig 40 munud o adloniant hefyd.
Wedi cael caniatâd a chefnogaeth Cwmni Frân Wen i'w theithio, ac wedi i Nici Beech gynnig y ganolfan gyntaf i mi yn Clwb Canol Dre Caernarfon, daeth pethau at ei gilydd yn sydyn iawn ac ar ôl tair galwad ffôn yn unig, mae gen i rŵan bedair canolfan sydd yn fodlon i mi berfformio yno!
Oherwydd diffyg arian, yr ydw i wedi dibynnu ar y cyfryngau cymdeithasol yn unig i ledaenu'r neges am y daith fer sy'n ymweld â:
Clwb Canol Dre, Caernarfon, 24 Medi, 8pm.
Chapter, Caerdydd. 30 Medi, 8pm.
Tŷ Siamas, Dolgellau, 14 Hydref, 7.30pm.
Theatr Felin Felinfach, 16 Hydref, 7.30pm.
Mae tocynnau i'w cael wrth y drws.