Lori: Oedi mawr ar yr A470 ger Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Bu oedi mawr ar yr A470 a'r M4 wedi i lori droi drosodd a gollwng cemegau.
Cafodd y ffordd ddeuol i gyfeiriad y gogledd ei chau fore Mercher wedi'r digwyddiad o dan Gyfnewidfa Coryton ger Tongwynlais.
Am gyfnod cafodd y ffordd i gyfeiriad y de ei chau.
Dywed yr heddlu fod y ffordd wedi ailagor i'r ddau gyfeiriad am 18:40.
Ar un adeg roedd 30 o ddiffoddwyr yno, criwiau o'r Eglwys Newydd, Caerffili, Canol Caerdydd, Pontypridd, Penarth a New Inn.
Wyth milltir
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân; "Dyw'r cemegau ddim yn beryglus iawn."
Am 14:30 roedd tagfeydd rhwng C23A a 25A'r M4, hynny yw tua wyth milltir o hyd.
Gan fod llwyth y lori'n fawr, dywedodd yr heddlu fod angen "cryn dipyn o amser" i glirio'r ffordd.
Ychwanegon nhw y gallai'r digwyddiad effeithio ar draffig yn teithio i Gaerdydd ar gyfer gêm Awstralia v Fiji yn Stadiwm y Mileniwm.
Os oes gan unrhywun wybodaeth am y digwyddiad, fe ddylai ffonio'r heddlu ar 101 a dyfynnu 1500350972.
Oedi ar drenau
Roedd rhybudd y gallai teithwyr ar drenau wynebu oedi wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod ar reilffordd yng ngogledd Caerdydd.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i orsaf Lefel Uchaf y Mynydd Bychan ychydig wedi 12:00 ddydd Mercher.
Dywedodd Trenau Arriva Cymru bod oedi rhwng Coryton, Rhymni a Heol y Frenhines. Roedd bysiau yn rhedeg yn lle trenau oedd wedi'u canslo am gyfnod.