Datganoli: Academwyr yn mynegi pryder
- Cyhoeddwyd

Dywed prif weinidog Cymru na fyddai e'n fodlon derbyn unrhyw gynigion fydd yn gwanhau pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Daw rhybudd Carwyn Jones ar ôl i adroddiad gan academwyr blaenllaw honni na fydd newidiadau gan Lywodraeth Prydain i'r ddeddf bresennol yn arwain i "setliad clir, cryf a pharhaol" fel cafodd ei addo.
Yn ôl Mr Jones ni fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw gynlluniau pe bai nhw'n rhy gymhleth i'w deall a'i gweithredu.
Ond mae Swyddfa Cymru yn mynnu mai nod unrhyw newidiadau yw cryfhau datganoli a gwneud y sefyllfa yn fwy dealladwy.
Mae disgwyl i ddraft o'r mesur newydd gael ei gyhoeddi yn yr Hydref.
Pwerau'r Cynulliad
Mae'r adroddiad gan academwyr Prifysgol Caerdydd a UCL yn edrych ar y cynllun i greu'r hyn sy'n cael ei alw'n fodel "pwerau wedi'u cadw nôl" yn debyg i'r setliad yn yr Alban.
Ond mae'r arbenigwyr wedi dweud nad oes digon o ystyriaeth i'r manylion.
Ar hyn o bryd mae datganoli yng Nghymru wedi'i seilio ar restr o bwerau sydd wedi'u trosglwyddo i'r Cynulliad.
Yn Yr Alban mae 'na ragdybiaeth fod popeth wedi'i ddatganoli heblaw am restr o bwerau'n benodol wedi'u cadw nôl yn San Steffan.
Ond mae adroddiad academwyr Prifysgol Caerdydd a UCL wedi dweud y dylai'r manylion gael eu seilio ar "egwyddorion ehangach ynglŷn â sut y dylai Teyrnas Gyfun ddatganoledig weithio".
Dywedodd yr adroddiad: "Ni fydd bargen wleidyddol ad hoc wedi ei seilio ar ystyriaethau tymor-byr yn creu setliad clir, cryf a pharhaol."
'Cymhlethdod mawr'
Yr athro Richard Wyn Jones yn cael ei holi ar Raglen Dylan Jones
Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: "Yr hyn 'dan ni'n ei gasglu yw bod y model, neu'r ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi dehongli model pwerau wedi eu cadw nôl, yn mynd i arwain at gymhlethdod mawr iawn ac, yn wir, fod rhai o'r pethau maen nhw'n awgrymu yn amhosib, yn ymarferol i'w drafftio."
Asgwrn y gynnen yw'r penderfyniad i geisio parhau ag un awdurdod cyfreithiol ar y cyd i Gymru a Lloegr, meddai.
Dadansoddiad Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru
Mae pryder yr academwyr na fydd cynlluniau datganoli diweddaraf llywodraeth y DU yn arwain at setliad clir a chynaliadwy yn cael ei rannu gan weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru.
Yr ofn ym Mae Caerdydd yw y gallai'r newidiadau wanhau yn hytrach na chryfhau'r Cynulliad.
Craidd y broblem yw saernïo cynllun cynaliadwy tra bod Cymru a Lloegr yn rhannu'r un gyfundrefn gyfreithiol.
Yn ôl yr academwyr, dyw'r cynlluniau diweddaraf ddim hyd yn oed yn mynd i'r afael â'r broblem.
Yn breifat mae ffynonellau o fewn Llywodraeth Cymru o'r farn bod y cynlluniau arfaethedig yn annerbyniol ac mae rhai Aelodau Cynulliad yn crybwyll y posibilrwydd y gallai'r Cynulliad wrthod cydsyniad i'r mesur Seneddol.
Fe fydd y ddwy lywodraeth yn awyddus i osgoi cam o'r fath a allai arwain at argyfwng cyfansoddiadol ar drothwy etholiad y Cynulliad.
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: "Mae pobol Cymru yn dymuno gweld pwerau'n cael eu defnyddio, nid trafodaeth academaidd.
"Mae'r setliad presennol yn aneglur, yn ddryslyd ac yn aml yn rhoi modd i fyw i gyfreithwyr.
"Fydd Mesur Cymru newydd yn creu datganoli cryfach a chliriach fydd yn hirhoedlog."
Roedd Swyddfa Cymru'n parhau'n barod i drafod cynnwys y mesur â Llywodraeth Cymru ac eraill, meddai, ond nid oedd "unrhyw amgylchiadau" lle byddai'r mesur yn creu "llwybr i annibyniaeth".