Sir Gaerloyw v Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Chris DentFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Chris Dent

Fe wnaeth Chris Dent sgorio 102 o rediadau wrth i Sir Gaerloyw daro yn ôl ar yr ail ddiwrnod o chwarae yn erbyn Morgannwg ym Mryste.

Roedd hi'n edrych yn addawol ar ddechrau'r diwrnod i'r ymwelwyr oedd ar 338-4. Dechreuodd Aneurin Donald y chwarae ar 91, ond roedd dau yn brin o'r cant wrth i Forgannwg ildio wicedi a gorffen 433 i gyd allan.

Roedd Dent 102 heb fod allan pan roedd yn rhaid rhoi'r gorau i'r chwarae oherwydd diffyg golau, gyda Sir Gaerloyw ar 243-3.