Amgueddfa Cymru: 'Cynnig olaf' medd pennaeth
- Cyhoeddwyd

Mae cyfarwyddwr cyffredinol Amgueddfa Cymru yn rhybuddio y gallai pwysau ariannol olygu fod yn rhaid canslo rhai arddangosfeydd a gallai swyddi fod yn y fantol.
Gwnaeth David Anderson ei sylwadau ar ôl gwneud "cynnig olaf" i staff amgueddfeydd, a hynny yn dilyn anghydfod ynglŷn â chyflogau.
Ers 2014 mae aelodau undeb PCS wedi bod yn gweithredu'n ddiwydiannol yn erbyn bwriad i roi'r gorau i daliadau ychwanegol i staff sy'n gweithio penwythnosau.
Dywed Mr Anderson bod toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn golygu eu bod wedi gorfod adolygu cyflogau, ac mae'n annog staff yr amgueddfa i dderbyn y "cynnig gorau posib sydd ar gael".
"Nifer cyfyng o opsiynau sydd gennym ni," meddai Mr Anderson.
"Os nad ydyn ni'n gwneud arbedion ar gostau staff, yna byddai'n rhaid torri 'nôl ar orielau ac adeiladau, neu drwy beidio â chael rhai arddangosfeydd neu drwy roi'r gorau i wasanaethau addysg.
"Dyma'r pethau rydym yn gwario arian arnynt, felly dyma yw'r dewis."
'Ymosodiad ar dâl'
Ond dywed Neil Harrison o undeb PCS bod y taliadau yn rhai fforddiadwy ac mai unig fwriad y rheolwyr yw dileu taliadau penwythnos.
"Mae'n ymosodiad ar dâl a thelerau gwaith pobl sy'n rhoi'r gorau i benwythnosau fel bod pobl eraill yn gallu dod gyda'u teuluoedd i fwynhau ein hamgueddfeydd."
Dywed yr amgueddfa bod eu cynnig diweddaraf yn cynnwys cynnydd o 6% mewn tâl sylfaenol, ac ychwanegiadau eraill yn ogystal.
Mae'n mynnu na fyddai staff ar gyflogau isel ar eu colled o'r newidiadau.
Mae'r undeb wedi cynnal pleidlais ymgynghorol ynglŷn â gweithredu ymhellach ac mae disgwyl canlyniad erbyn 2 Hydref.