Cwpan Rygbi'r Byd: Cyhoeddi'r tîm fydd yn wynebu Lloegr
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi cyhoeddi'r tîm fydd yn wynebu Lloegr yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Twickenham ddydd Sadwrn.
Gareth Davies yw'r mewnwr ac nid yw Mike Phillips yn y 23 fydd yn herio'r hen elyn.
Tomas Francis fydd yn dechrau yn safle'r prop pen tynn, gyda Gethin Jenkins yn ben rhydd a Scott Baldwin yn fachwr.
Er bod Samson Lee wedi gwella o'r anaf i'w goes, bydd yn dechrau ar y fainc.
Williams yn holliach
Mae'r cefnwr Liam Williams wedi gwella o'i anaf yn erbyn Uruguay ac mae George North a Hallam Amos - sydd yn lle Alex Cuthbert - ar yr esgyll.
Y capten Sam Warburton fydd yn dechrau fel rhif saith gyda Dan Lydiate a Taulupe Faletau yn ymuno gydag ef yn y rheng ôl. Mae Justin Tipuric ar y fainc.
Alun Wyn Jones a Bradley Davies fydd yn yr ail-reng tra bod Jamie Roberts a Scott Williams yn safle'r canolwyr, a Dan Biggar yn faswr.
Mae Lloegr wedi gwneud tri newid i'r tîm drechodd Fiji yng ngêm agoriadol y bencampwriaeth, gyda George Ford yn symud i'r fainc ag Owen Farrell yn cymryd ei le fel maswr.
Mae anafiadau i'r canolwr Jonathan Joseph a'r wythwr Ben Morgan wedi gorfodi Stuart Lancaster i wneud dau newid arall, gyda Sam Burgess a Billy Vunipola yn eu lle yn Twickenham.
Tîm Cymru: Liam Williams; George North, Scott Williams, Jamie Roberts, Hallam Amos, Dan Biggar, Gareth Davies; Gethin Jenkins, Scott Baldwin, Tomas Francis, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (capten), Taulupe Faletau.
Eilyddion: Ken Owens, Aaron Jarvis, Samson Lee, Luke Charteris, Justin Tipuric, Lloyd Williams, Rhys Priestland, Alex Cuthbert.
Tîm Lloegr: Mike Brown; Anthony Watson, Brad Barritt, Sam Burgess, Jonny May, Owen Farrell, Ben Youngs; Joe Marler, Tom Youngs, Dan Cole, Geoff Parling, Courtney Lawes, Tom Wood, Chris Robshaw (capten), Billy Vunipola.
Eilyddion: Rob Webber, Mako Vunipola, Kieran Brookes, Joe Launchbury, James Haskell, Richard Wigglesworth, George Ford, Alex Goode.
Bydd llif byw arbennig o gêm Cymru v Lloegr ar Cymru Fyw o 19:30 nos Sadwrn, ac am fwy o gyffro Cwpan Rygbi'r Byd ewch i'n is-hafan.