Ymosodiadau rhyw: Arestio dau ddyn
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De, sy'n ymchwilio i dri ymosodiad rhyw yng nghanol Caerdydd o fewn pum diwrnod, wedi arestio dau ddyn ddydd Iau.
Cafodd y cyntaf - dyn 22 oed o Gaerdydd - ei arestio yn gynnar ddydd Iau ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.
Cyhoeddodd Heddlu'r De ddiwedd y prynhawn ddydd Iau fod ail ddyn - dyn 40 oed o ardal Glan-yr-afon - wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad gwreiddiol, ac mae'n cael ei gadw yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd.
Digwyddodd yr ymosodiad diweddara fore Iau tua 04:30 yn ardal Neuadd y Ddinas a dywed yr heddlu ei fod yn ymosodiad rhyw difrifol. Cafodd parc ger Neuadd y Ddinas ei gau tra bod heddlu fforensig yn archwilio'r safle.
Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu maen nhw hefyd yn ymchwilio i ddau ymosodiad rhyw arall yn y ddinas.
Digwyddodd un yn ardal Neuadd y Ddinas yn ystod oriau man bore Sul 20 Medi, a'r llall yn Cathays Terrace yn oriau mân fore Mawrth, 22 Medi.
Cadarnhaodd y Ditectif Prif Arolygydd Richard Jones bod y ferch yr ymosodwyd arni fore Iau yn 19 oed, a'r ddwy ferch arall a ddioddefodd ymosodiadau yn 20 oed.
Mesurau diogelwch
Dywedodd yr uwch arolygydd Andy Valentine: "Tra bod yna debygrwydd o ran lleoliadau, amseroedd a natur y troseddau, mae'n rhy gynnar i ddweud ai un dyn sy'n gyfrifol.
"Rydym yn gweithio'n galed i ddod o hyd i bwy sy'n gyfrifol, ac mae'r dioddefwr yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol."
Dywed yr heddlu eu bod wrthi yn holi dyn fel rhan o'u hymchwiliad.
Mae'r ardal yn agos i adeiladau Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys Undeb y Myfyrwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "Rydym yn derbyn bod y rhain yn ddigwyddiadau difrifol ac rydym yn cydweithio yn agos gyda'r heddlu er mwyn helpu gyda'r ymchwiliad.
"Mae'r heddlu yn cynyddu eu presenoldeb yn yr ardal. Maen nhw hefyd yn atgoffa pobl i fod â chwmni wrth gerdded gyda'r hwyr ac i wneud hynny mewn ardaloedd sydd â golau.
"Mae swyddogion diogelwch y coleg wedi bod yn ymweld â lletyau myfyrwyr er mwyn trafod diogelwch.
"Rydym mewn trafodaethau gydag Undeb y Myfyrwyr ac yn trafod mesurau priodol i sicrhau diogelwch myfyrwyr."
Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu yn ddienw ar 0800 555 111.