Rheithfarn naratif i farwolaeth yn 2005

  • Cyhoeddwyd
glan clwyd
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Jamie Appleby yn Ysbyty Glan Clwyd ym mis Tachwedd 2005

Dywed crwner ei bod yn fwy na thebyg nad oedd staff meddygol wedi rhoi cyffur gwrth-epileptic i ddyn 27 oed o Ddinbych yn yr oriau ar ôl iddo gyrraedd Ysbyty Glan Clwyd ar 25 Hydref, 2005.

Ond yn ei ddyfarniad naratif i farwolaeth Jamie Appleby, dywedodd y crwner John Gittins "nad oedd yn bosib penderfynu achos marwolaeth Mr Appleby" - dyn oedd â chyflwr Syndrom Down.

Bu farw Mr Appleby dau ddiwrnod ar ôl mynd i'r ysbyty - cafodd ei daro'n sâl gan gwympo i'r llawr.

Clywodd y cwest fod Mr Appleby yn diodde' o broblemau meddygol cymhleth - cafodd ei eni gyda thwll yn ei galon ac fe ddioddefodd dwy strôc cyn iddo farw ar 20 Tachwedd, 2005.

"Er i'w gyflwr epilepsi gael ei nodi gan staff yng Nglan Clwyd mae'n debygol na wnaeth dderbyn ei feddyginiaethau gwrth-epileptig tan 27 Hydref ," meddai Mr Gittins.

Dywedodd y crwner ei bod yn amhosib dweud beth wnaeth achosi Mr Appleby i gael ei daro'n wael a chwympo i'r llawr, ond mae'n debyg fod y digwyddiad wedi achosi iddo ddatblygu niwmonia.

Dywedodd y crwner na fyddai'n ysgrifennu adroddiad yn galw am newidiadau yn y modd mae Glan Clwyd yn rhoi meddyginiaethau, oherwydd ei fod yn credu fod y newidiadau hynny eisoes wedi eu gwneud.

Fe wnaeth mam Jamie Appleby adael ar ddiwedd y gwrandawiad tridiau heb wneud sylw - gan ddweud ei bod am gael amser i ystyried casgliadau'r crwner.

Bu'n rhaid ail-ddechrau'r cwest i farwolaeth Mr Appleby bron 10 mlynedd ar ôl iddo farw, ac mae teulu Mr Appleby wedi beirniadu'r oedi.

Cyn-grwner gogledd ddwyrain Cymru, John Hughes, gynhaliodd y cwest gwreiddiol, a bu farw Mr Hughes yn 2011.