Cerydd i dîm rygbi Cymru
- Published
Mae tîm rygbi Cymru wedi cael cerydd swyddogol gan y corff sy'n rheoli'r gamp, World Rugby, am fynd "yn groes i ysbryd rheolau Cwpan y Byd".
Deellir bod rhai chwaraewyr sydd ddim yn aelodau o'r garfan derfynol o 31 o chwaraewyr wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiwn ymarfer ddydd Mercher.
Er na wnaeth World Rugby gynnal ymchwiliad ffurfiol i'r mater, fe gyhoeddon nhw ddatganiad ddydd Iau sy'n dweud:
"Mae tîm Cymru wedi cael rhybudd swyddogol wedi iddi ymddangos eu bod wedi mynd yn groes i ysbryd rheolau Cwpan Rygbi'r Byd 2015 o safbwynt cynnwys chwaraewyr sydd ddim yn y garfan o 31 mewn sesiwn ymarfer.
"Ar ôl adolygu'r mater mae World Rugby yn fodlon nad oedd bwriad i dorri'r rheolau.
"Yn ogystal â'r rhybudd swyddogol i Gymru mae bob tîm wedi eu hysbysu nad yw chwaraewyr o'r tîm cenedlaethol ehangach sydd ddim yng ngharfan Cwpan y Byd yn cael cymryd rhan mewn sesiynau ymarfer."
Ddim yn deall
Ond mewn cynhadledd newyddion yn ddiweddarach doedd hyfforddwr Cymru Warren Gatland ddim yn hapus gyda phenderfyniad World Rugby.
Dywedodd: "Dydyn ni ddim wedi torri unrhyw reol. Yn ôl World Rugby ry'n ni wedi mynd yn groes i ysbryd y rheolau, ond dydw i ddim yn gwybod beth mae hynny'n feddwl.
"Naill ai mae gennych chi reolau, neu ddim rheolau... beth mae ysbryd y rheolau yn feddwl?
"Mae e naill ai yn y rheolau, neu dyw e ddim."