Saith Diwrnod
- Cyhoeddwyd

Catrin Beard yn trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau ar raglen y Post Cyntaf, BBC Cymru.
Tydan ni fel Cymry'n mwynhau ffrae? A does dim sy'n well na ffrae am yr iaith. Wiw i neb feirniadu Cymraeg neb arall - mae'r term 'plismon iaith' yn amhosib i'w ddweud gydag anwyldeb. Ond ar wefan Cymru Fyw, mae'r trydarwr @YBeiroCoch, sy'n cywiro negeseuon ei gyd-drydarwyr yn rheolaidd, yn egluro pam fod hyn yn bwysig.
Yn ôl y Beiro - ac ydi, mae'n trydar yn ddienw - anodd deall weithiau gymaint o amarch sydd gan y Cymry Cymraeg at y Gymraeg.
Byddant bob un yn bloeddio 'Er gwaethaf pawb a phopeth' ac 'o bydded i'r heniaith barhau' tan berfeddion, heb sylweddoli mai nhw yw'r rhan fwyaf o'r 'pawb' yna, a'u bod nhw'n gwneud mwy nag unrhyw 'hen Fagi a'i chriw' i ladd yr iaith.
Ar ôl cywiriad penodol, derbyniodd storm o feirniadaeth. Dyma, dywed, sy'n digwydd yn or-fynych yn y Gymru Gymraeg. "Paid â gofyn am gywirdeb!" yw'r gri.
"Paid â mwydro am safonau! Dylet ti ddiolch am yr hyn o ddefnydd sydd. Ymfalchïa yn dy friwsion!"
Ond mae'r Beiro Coch yn mynnu bod angen safonau a chywirdeb. Yn sylfaenol, mae angen y rheiny er mwyn cael iaith iach - er mwyn iddi fedru anadlu a thyfu, ac er mwyn cael patrymau y gall plant, a dysgwyr eraill, eu hefelychu.
Ac oes, mae 'na ymateb i'w erthygl ar Twitter, gyda rhai'n cytuno â'r Beiro, ac eraill yn ei alw'n nonsens o'r radd flaena.
Prynwch eich popcorn, eisteddwch yn ôl a mwynhewch y sioe!
Ar wefan Pobl Caerdydd, mae Huw Onllwyn yn codi sawl cwestiwn am ymateb pobl ym Mhrydain i argyfwng y ffoaduriaid. Mae'n holi beth yw ystyr y slogan Croeso i Ffoaduriaid? Mae wedi ei weld sawl gwaith, yn enwedig ar Facebook a Twitter.
Rwy'n siŵr, dywed, fod hyrwyddo'r neges yn gwneud i berson deimlo'n dda iawn. Ond, a oes yna wahaniaeth, weithiau, rhwng gwneud yr hyn sy'n teimlo'n dda, a gwneud yr hyn sydd yn dda?
A yw datgan 'Refugees Welcome' ar Facebook yn mynd i'r afael a'r mater, mewn ffordd adeiladol a synhwyrol?
Yr hyn mae ei erthygl yn ei wneud yw ein hannog i feddwl y tu hwnt i'n hymateb greddfol ac ystyried y darlun ehangach, ac yn arbennig yr effaith y byddai croesawu miloedd o ffoaduriaid yn ei gael - yma ym Mhrydain ac yn y Dwyrain Canol.
A rhybudd i fod yn ofalus sydd gan yr Aelod Seneddol David Davies yn Golwg yn dilyn ymweliad â gwersyll sy'n llochesu dros bedair mil o bobl ger Calais.
Dywed ei bod yn ddyletswydd ar y llywodraeth i reoli faint o bobl sy'n dod i Brydain, a phwy sy'n dod.
Mae hawl gyda ni, fel Prydeinwyr i ddewis pwy sy'n dod yma. Dyw pobl ddim yn gallu jest dod heb bapurau, heb fisas a chael y good life.
Ond, yn y cyfamser, mae'r dioddef a'r argyfwng yn parhau, ac yn Golwg hefyd, mae Aled Edwards, Cadeirydd Partneriaeth Mewnfudo Cymru, yn dweud efallai mai hwn fydd yr un peth fydd yn ein diffinio ni am genhedlaeth - sut rydym ni'n handlo symud mawr o bobl oherwydd rhyfeloedd.
Mae Carwyn Jones wedi awgrymu y gall Cymru dderbyn hyd at 1,600 o ffoaduriaid, ond yn ôl Aled Edwards, dyw hi ddim yn lot o help trafod faint o bobl sy'n debygol o gyrraedd - beth sy'n allweddol bwysig yw ein bod yn rhoi pethau mewn lle sy'n caniatáu i ni dderbyn unrhyw rif gawn ni.
Dywed fod un o bob ugain o boblogaeth Cymru o wledydd tramor, a'n bod ni'n bell bell o gyrraedd pwynt o straen yn gymdeithasol er gwaetha'r penawdau.
Mae'n rhaid i ni sylweddoli, meddai, nad ydy'r bobol yma am fynd i ffwrdd yn gyflym.