Farage: UKIP Cymru i ddewis ymgeiswyr ar gyfer etholiad
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd UKIP Nigel Farage wedi mynnu y bydd y blaid Gymreig yn cymryd rhan yn y broses o ddewis ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Cynulliad flwyddyn nesaf.
Mae rhai o gyn-ymgeiswyr y blaid wedi mynegi pryder y bydd y bwriad i ganiatâu ffigyrau blaenllaw o du hwnt i Gymru i ymladd y seddi mwyaf addawol yn creu drwgdybiaeth ymhlith etholwyr.
Ymysg y rhai sy'n dymuno sefyll ar y rhestr ranbarthol fis Mai nesaf mae'r cyn-ASau Mark Reckless a Neil Hamilton, a hefyd pennaeth y wasg i Mr Farage, Alexandra Phillips.
Pwyllgor canolog sy'n penderfynu pwy gaiff sefyll ar y rhestrau - gobaith gorau UKIP o ennill eu seddi cyntaf erioed ym Mae Caerdydd - yn hytrach na changhennau lleol y blaid.
Ond mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Mr Farage: "Mae 'na gynrychiolwyr o'r blaid yn ganolog ac o Gymru yn penderfynu'r enwebiadau yma.
"Mae'r Blaid Lafur wedi bod yn sefyll (mewn etholiadau) ers dros ganrif, maen nhw'n nabod eu pobl cyn iddyn nhw gael eu henwebu. Ry' ni'n llawer iawn mwy newydd.
"Bum mlynedd yn ôl, prin yn bodoli oedd UKIP yng Nghymru; erbyn heddiw mae gennym ni lwyth o bobl newydd, a'r hyn ry'n ni wedi penderfynu gwneud yw cynnal proses broffesiynol o wirio pawb, fel y gallwn ni roi pobol gerbron yr etholwyr y ry'n ni'n gwybod fydd yn gynrychiolwyr da."
Beirniadaeth adeiladol
Fe fyddai unrhyw ACau UKIP yn cynnig "beirniadaeth adeiladol", ac yn ymdrechu i "chwalu'r consensws clud" ym Mae Caerdydd, ychwanegodd.
Ond dywedodd Mr Farage y byddai'n "hurt" i drafod unrhyw gytundeb ôl-etholiad ag unrhyw blaid arall, misoedd cyn i neb fwrw pleidlais.
Yn siarad cyn i gynhadledd flynyddol y blaid ddechrau yn Doncaster ddydd Gwener, dywedodd: "Mae 'na Gatalaniaid ym Madrid, mae 'na UKIP-wyr yn Strasbwrg, mae 'na deips SNP yn San Steffan nad sy'n credu ym modolaeth y Siambrau yna o gwbl.
"Ry'n ni'n credu fod angen setliad datganoli cymwys i Gymru, a byddwn, fe fyddwn ni'n chwarae'n rhan adeiladol."