Cylchgronau Cristnogol: Awdur colofn yn ymddiheuro
- Cyhoeddwyd

Mae awdur colofn olygyddol wnaeth ymddangos mewn tri chylchgrawn Cristnogol wedi cytuno i ymddiheuro yn ddiamod i gadeirydd corff llywodraethol Ysgol Bryntawe ac i staff yr ysgol am sylwadau gafodd eu cyhoeddi yn ddiweddar.
Fe wnaeth yr awdur, Carys Moseley, honni yn anghywir fod yr ysgol wedi 'troi llygad ddall' i'r ffaith fod y cyn-brifathro yn cael perthynas gydag aelod arall o staff.
Mae rhaglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru wedi cael gwybod y bydd ymddiheuriad yn ymddangos yn y tri chylchgrawn ynghyd ag erthygl wedi ei hysgrifennu gan Heini Gruffudd, cadeirydd y llywodraethwyr mewn ymateb i'r golofn olygyddol.
Cafodd y golofn olygyddol ei hysgrifennu yn dilyn penderfyniad Cyngor y Gweithlu Addysg yng Nghaerdydd ddechrau'r mis.
'Ymddygiad amhroffesiynol'
Cafodd enwau Graham Daniels - cyn bennaeth Ysgol Bryntawe a Bethan Thomas, athrawes gemeg - eu dileu oddi ar y rhestr ddysgu am yr hyn gafodd ei ddisgrifio fel 'ymddygiad amhroffesiynol' ac yn ymddygiad anystyriol.
Fe fydd gan y ddau yr hawl i wneud cais i ail-ymuno â`r gofrestr ar ôl tair blynedd.
Fe wnaeth y panel disgyblu ddyfarnu eu bod wedi cymryd rhan mewn gweithred ryw mewn swyddfa yn yr ysgol, ar ôl i fideo gafodd ei recordio gan ddisgybl gael ei rhoi ar y we. Roedd y clip yn cynnwys yr hyn gafodd eu disgrifio fel 'synau rhyw'.
Roedd y golofn yn atodiad i'r cylchgronau rheolaidd sy'n cael eu cyhoeddi gan dri enwad - y Tyst yw cylchgrawn yr Annibynwyr, Y Goleuad yw cyhoeddiad Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a Seren Cymru ydi cylchgrawn y Bedyddwyr.
Oddi fewn i'r cylchgronau unigol mae yna ran olygyddol sy'n gyffredin i'r tri - rhan gydenwadol - a dyma'r erthygl gafodd ei hysgrifennu gan Carys Moseley, aelod o staff gyda'r Eglwys Bresbyteraidd.
Fe wnaeth y golofn ymddangos yr wythnos diwethaf.
Dwedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Heini Gruffudd, fod yr honiadau yn enllibus a'i fod yn barod i gymryd camau cyfreithiol.
Galwodd ar yr awdur i ymddiheuro, ac i gyhoeddi ymateb llawn i'r erthygl yn rhifynnau nesa'r cylchgronau.
'Camau priodol'
Dwedodd Heini Gruffudd wrth BBC Cymru fod y "camau ymchwilio a disgyblu priodol" wedi'u cymryd unwaith y daeth tystiolaeth o'r berthynas i sylw'r staff a'r llywodraethwyr.
Dywedodd awdur y golofn wrth BBC Cymru ei bod wedi cael ei chynghori y dylai hi ymddiheuro a'i bod hi wedi gwneud hynny mewn print.
Mae disgwyl i'r ymddiheuriad ymddangos yn rhifynnau nesaf y tri chylchgrawn dros yr wythnosau nesaf, ynghyd ag erthygl wedi ei hysgrifennu gan Heini Gruffudd mewn ymateb i'r golofn olygyddol.
Mae BBC Cymru yn deall bod yr enwadau hefyd wedi bod yn trafod gyda'u cyfreithwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2015