Parc Bannau Brycheiniog yn methu gweithredu cynllun iaith
- Cyhoeddwyd

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi adroddiad ymchwiliad i ddiffyg gweithrediad cynllun iaith Gymraeg Awdurdod Parc Bannau Brycheiniog.
Penderfynodd y Comisiynydd gynnal ymchwiliad statudol dan adran 17 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn dilyn derbyn adroddiad monitro blynyddol yr Awdurdod.
Wrth gynnal yr ymchwiliad nod y Comisiynydd oedd canfod a fu methiant gan yr Awdurdod i weithredu ei gynllun iaith Gymraeg wrth lansio'u gwefan.
Mae'r Parc Cenedlaethol wedi croesawu adroddiad y Comisiynydd drwy ddweud eu bod yn bwriadu gweithredu ei argymhellion o fewn yr amserlenni a roddwyd.
Methu â chyflawni cynllun iaith
Yn ei hadroddiad, ac ar ôl ystyried y dystiolaeth, fe ddaeth Meri Huws i'r casgliad fod yr Awdurdod wedi methu â chyflawni cymal 4.5 yn ei gynllun iaith drwy beidio â lansio gwefan oedd yn arddangos testun Cymraeg a methu gwneud trefniadau pwrpasol i gyfieithu testun Saesneg y wefan.
Ymhellach, o'r wybodaeth a ddarparwyd, fe ddaeth y Comisiynydd i'r casgliad fod yr Awdurdod wedi methu â chyflawni cymal 6.6.2 o'i gynllun iaith gan nad oedd unrhyw dystiolaeth ei fod wedi annog y bartneriaeth yr oedd yn gweithredu ynddi i fabwysiadu polisi dwyieithog.
Wedi dweud hynny, mae'r Comisiynydd o'r farn bod yr Awdurdod wedi cyflawni cymal 3.1 o'i gynllun iaith drwy roi ystyriaeth i'r angen i ddarparu fersiwn ddwyieithog o'r wefan wrth lunio'r tendr cychwynnol.
Mae'r Comisiynydd wedi gwneud pedwar argymhelliad i'r Awdurdod:
- Dylai'r Awdurdod lunio cynllun adfer manwl gyda'r nod o sicrhau gwefan gyrchfan ddwyieithog;
- Dylai'r Awdurdod ddiwygio canllawiau golygyddol ei wefan er mwyn osgoi cyhoeddi gwefannau nad ydynt yn ddwyieithog yn y dyfodol;
- Dylai'r Awdurdod annog Partneriaeth Cyrchfan Cynaliadwy Bannau Brycheiniog i fabwysiadu polisi dwyieithog;
- Dylai'r Awdurdod osod trefn mewn lle i sicrhau bod unrhyw ddeunydd marchnata a gyhoeddir gan yr Awdurdod, pan mae'n gweithredu fel partner mewn consortiwm, yn ddwyieithog.
Mae amserlen benodol wedi ei gosod ar gyfer gweithredu'r argymhellion, a bydd swyddogion y Comisiynydd yn monitro sut caiff yr argymhellion eu cyflawni.
Dwedodd John Cook, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, "Rydym yn croesawu adroddiad ymchwiliad Comisiynydd yr Iaith Gymraeg a gyflwynwyd i bwyllgor Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gynharach heddiw.
"Rydym yn gwerthfawrogi lefel y ddealltwriaeth mae'r Comisiynydd wedi ei dangos wrth adrodd ei chasgliadau a'i hargymhellion, ac rydym yn bwriadu gweithredu'r argymhellion hynny o fewn yr amserlenni a roddwyd."