Llyfrgell yn penodi prif weithredwr a llyfrgellydd
- Cyhoeddwyd

Mae bwrdd ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi penodi Linda Tomos fel prif weithredwr a llyfrgellydd dros-dro.
Fe fydd yn ymddeol o'i swydd fel Cyfarwyddwr MALD (Is-Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd), Llywodraeth Cymru ar 31 Hydref ac yn cychwyn yn ei swydd newydd ar 1 Tachwedd.
Dywedodd Syr Deian Hopkin, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 'Rwyf yn falch iawn fod Bwrdd y Llyfrgell wedi penodi Linda Tomos fel Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
"Mae gan Linda gysylltiad hir ac agos â'r Llyfrgell drwy ei hamrywiol swyddogaethau o fewn Llywodraeth Cymru.
"Bu'n mynychu cyfarfodydd ein Bwrdd am naw mlynedd ac mae'n llyfrgellydd cymwysedig sydd wedi gwneud ei marc mewn ffordd nodedig iawn ym maes rheoli gwybodaeth."
Fe fydd hi'n olynu'r Athro Aled Gruffydd Jones wnaeth gyhoeddi ei fwriad i ymddeol fel prif weithredwr nôl ym mis Gorffennaf ar ôl dwy flynedd wrth y llyw.
Bu'n gyfnod cythryblu i'r Llyfrgell yn ystod y cyfnod diweddar.
Ym mis Ebrill 2013 cafodd rhan o'r adeilad ei ddifrodi gan dân. Cafodd yr adeilad ei ailagor yn gynharach yr wythnos hon.
Yna fis Tachwedd y llynedd fe gollodd y llyfrgell achos tribiwnlys ddyfarnodd bod dau aelod o staff wedi eu diswyddo yn annheg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2015
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2015
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2014