Cofnodi olion pentref hynafol ar Benrhyn Gŵyr

  • Cyhoeddwyd
Bae Rhosili

Bydd cyfle i ddarganfod cyfrinachau pentref canol oesol yng Ngŵyr dydd Sadwrn.

Fe orchuddiwyd y pentref gan dywod yn ystod storm yn y 15fed ganrif , ond mae tywydd stormus diweddar wedi golygu bod rhan o`r pentref ger Rhosili wedi dod i`r amlwg.

Mae`r Ymddiriodolaeth Genedlaethol yn ceisio cofnodi beth sydd i`w weld nawr, gan bod na berygl y gallai olion y pentref gael eu sgubo i`r môr, a'u colli am byth.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal â Phartneriaeth Tirlun Gŵyr yn rhan o`r prosiect.

Yn ôl y cynghorydd Robert Francis-Davies o Gyngor Abertawe, "mae hyn yn gyfle gwych i weld y gorffennol o flaen ein llygaid.

"Fe fyddai`n arbennig pe bai pobol leol yn llwyddo i ddarganfod olion pentref sy`n deillio yn ôl i oes Brenin James y cyntaf.

Gall hyn fod y cyfle olaf i gynnal astudiaeth fel hyn."