Cymorth Cristnogol yn nodi 70 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Mewn gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, bydd cyn-Archesgob Caergaint Dr Rowan Williams yn nodi 70 mlynedd o waith Cymorth Cristnogol gan hawlio bod yr elusen yr un mor berthnasol nawr ac yr oedd pan gafodd ei sefydlu.
Bwriad y gwasanaeth yw ail-ddatgan gwerthoedd sylfaenol yr elusen, a hefyd i ddiolch am gefnogaeth dros y degawdau.
Mae Dr Rowan Williams yn tynnu cymhariaeth rhwng sefyllfa'r ffoaduriaid yn Ewrop a chyfnod sefydlu'r elusen.
"Sefydlwyd Cymorth Cristnogol yn wreiddiol yn dilyn yr Ail Ryfel Byd wrth i arweinwyr eglwysig ym Mhrydain ac Iwerddon ddod ynghyd yn benderfynol i wneud popeth posib i helpu ffoaduriaid yn Ewrop oedd wedi colli popeth," meddai.
"Rydym mewn sefyllfa debyg heddiw ag yr oeddem 70 mlynedd yn ôl yn yr ystyr fod angen inni weithio gyda'n gilydd i helpu pobl llai ffodus na ni, sy'n gorfod gadael eu mamwlad a chwilio am hafan ddiogel mewn man arall."
Yn ôl pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru, Huw Thomas: "Mae ein hymwneud ledled Cymru yn gryfach nac erioed, wrth inni weithio gyda mwy na 1,500 o Eglwysi a degau o filoedd o gefnogwyr unigol."