Galwad ar Gymry alltud i helpu economi'u gwlad enedigol
- Cyhoeddwyd

"Gorau Cymro, Cymro oddi cartre" - medde'r hen ddihareb.
Ond faint o ddefnydd yda ni fel gwlad yn ei wneud o sgiliau a phrofiad Cymry sy'n byw dramor?
Ma' na alw ar Lywodraeth Cymru i ariannu cynllun fydde'n annog Cymry alltud i helpu tyfu economi'u gwlad enedigol.
Bwriad grŵp o bobl busnes dylanwadol o'r enw 'Global Welsh' yw efelychu llwyddiant Iwerddon sy'n arwain yn y maes.
Maen nhw'n cynnig £300,000 i gychwyn y fenter ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyfrannu'r un swm.
Mae gan lywodraeth Iwerddon weinidog penodol sy'n gyfrifol am Wyddelod sy'n byw dramor. Dros y 2 flynedd ddiwetha' mae Jimmy Deeniham wedi teithio'r byd yn eu hannog i gyfrannu at adfywiad economi eu mamwlad yn dilyn y dirwasgiad diweddar.
"Ma' tua 70m o bobl wyddelig yn byw ar draws y byd a ma 'da nhw ddiddordeb mawr yn eu gwlad enedigol. Pan ry'ch chi'n siarad â nhw - maen nhw'n barod i helpu," medde Jimmy Deeniham mewn cyfweliad a BBC Cymru.
Defnyddio cysylltiadau
Yn ogystal â gwaith y gweinidog - mae llywodraeth Iwerddon yn cyfrannu at gynllun sy'n defnyddio cysylltiadau Gwyddelod o dramor i ddenu buddsoddiad.
Ma' 'na rodd ariannol o 15000ewro am bob swydd sy'n cael ei greu drwy ymdrechion y "cysylltydd" i ddwyn perswad ar gwmni i sefydlu ar yr Ynys Werdd.
Yn ôl Joanna Murphy o Connect Ireland:
"Ers dechrau'r cynllun 3 blynedd yn ôl ma' 'da ni 52,000 o bobl erbyn hyn ar draws y byd sy'n gwrando ac yn gwylio am gyfleoedd busnes. I'r bobl sy'n ein cysylltu ni â chwmnïau rhyngwladol y peth pwysicaf iddyn nhw yw'r teimlad o fod wedi gwneud cyfraniad rhyfeddol i'w mamwlad - o fedru rhoi'r rhodd bwysica' un i Iwerddon - sef gwaith."
1,600 o swyddi
Mae'r cynllun wedi denu 1600 o swyddi hyd yma i Iwerddon a "miloedd yn fwy dan ystyriaeth" medde Joanna Murphy.
Mae llywodraeth Iwerddon yn cydnabod bod y ffaith fod treth gorfforaethol yn isel (12.5% o'i gymharu â 30% yn UDA) yn un rheswm pan eu bod wedi llwyddo denu naw o'r deg cwmni cyfrifiadurol mwya' yn y byd, a naw allan o'r deg cwmni fferyllol mwya' hefyd.
Ond maen nhw'n dadlau bod gwneud yr ymdrech i dynnu ar sgiliau a phrofiad y 'diaspora' - sef Gwyddelod sy'n byw dramor - yn allweddol hefyd.
Yn ôl Gareth Morgan, o bapur newydd yr Irish Independent mae 'na dipyn o sylw i'r gwaith:
"Pan ddewch chi i faes awyr Dulyn fe welwch chi arwyddion mawr yn annog pobl i ddefnyddio'u cysylltiadau i ddenu buddsoddiad."
"Ma' Cyllideb 'da ni'n dod lan mewn ychydig wythnosau ac un o'r pethe sydd wedi'i ddatgelu yw eu bod nhw'n edrych ar sut i elwa hyd yn oed yn fwy o'r 'diaspora'.
'Nol yng Nghymru, mae 'na Gymro sy'n bennaeth ar un o gwmnïau pensaernïaeth mwya'r byd wedi cefnogi'r alwad i Lywodraeth Cymru wneud mwy yn y maes.
Fe symudodd Keith Griffiths o Dy Ddewi i Hong Kong 30 o flynyddoedd yn ôl - ac yn ystod ei yrfa mae wedi dylunio dinasoedd cyfan yn China.
Tŷ Ddewi
Bellach - mae'i brosiect ddiweddara wedi dod a'i ddoniau yn ôl i Sir Benfro. Mae wrthi'n adnewyddu tri adeilad adnabyddus yn Nhŷ Ddewi gan eu troi'n westai a bwytai moethus.
"Fe alle Sir Benfro fod mor llewyrchus â Chernyw," meddai wrth BBC Cymru, "ond mae angen buddsoddiad."
"Dwi wedi treulio blynyddoedd yn helpu gwella isadeiledd China - dwi'n hapus iawn i wneud yr un peth yn Sir Benfro"
"Mae' na Gymry talentog ar draws y byd - ma' angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu system i'w hannog nhw i helpu Cymru."
Ymateb y llywodraeth
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod gwerth defnyddio'r diaspora Cymreig i helpu adnabod a chefnogi cyfleodd buddsoddi yng Nghymru.
"Ar y cyd â phartneriaid yn y sector breifat, rydym wedi cyllido astudiaeth er mwyn mesur manteision posib sefydlu corff diaspora.
"Rydym yn astudio casgliadau'r astudiaeth, yn ogystal â chynllun busnes gan Global Welsh."