Cyllid gofal iechyd: Ymestyn y dyddiad cau
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru yn ymestyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio arian ar gyfer gofal iechyd parhaus.
Dyma gyfle i bobl hawlio os ydynt yn meddwl y dylai eu gofal parhaus gael ei ariannu gan Wasanaeth Iechyd (GIG) Cymru.
Mae 'gofal iechyd parhaus' yn becyn o wasanaethau gofal y mae'r GIG yn talu amdanynt ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth sy'n ymwneud yn bennaf ag iechyd.
Gall y gofal gael ei ddarparu mewn cartref gofal neu yng nghartref yr unigolyn.
O dan y trefniadau newydd, mae gan hawlwyr hyd at 31 Hydref i gofrestru eu bwriad gyda'u byrddau iechyd i hawlio costau gofal iechyd parhaus ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Awst 2013 a 30 Medi, 2014.
Cyngor rhad ac am ddim
Gall pob bwrdd iechyd ddarparu cyngor rhad ac am ddim i bobl sydd am wneud hawliad, yn ogystal â chwblhau unrhyw waith angenrheidiol ar eu rhan.
Yn ôl y llywodraeth, y bwriad yw adolygu pob hawliad o fewn 12 mis i'w cyflwyno.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford:
"Weithiau mae pobl angen gofal hirdymor i'w helpu i ddygymod ag afiechyd neu anabledd. Bydd rhai pobl wedi talu am y gofal hwnnw eu hunain, pan ddylai o bosib fod wedi cael ei ddarparu gan y GIG.
"Os yw pobl neu eu teuluoedd yn credu eu bod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cael gofal wedi'i ariannu dan ofal iechyd parhaus, ond eu bod wedi talu am y gofal hwnnw eu hunain, rwy'n eu hannog i gysylltu â'u bwrdd iechyd yn ddi-oed.
"Bydd y GIG yn darparu cyngor i'r hawlwyr ac yn cwblhau'r holl waith gofynnol i adolygu'r achos yn rhad ac am ddim."
"Rydyn ni wedi penderfynu ymestyn y dyddiad cau er mwyn sicrhau bod gan bobl ddigon o amser i ystyried a ydyn nhw am ddod ymlaen i wneud hawliad."
Yn ôl y llywodraeth, fe all y byrddau iechyd gyfeirio pobl at y mannau priodol i gael rhagor o wybodaeth. Dylai pobl sydd am gofrestru eu bwriad i wneud hawliad gysylltu â'u bwrdd iechyd.