Er cof am Ffion

  • Cyhoeddwyd
Golygfa o KnownFfynhonnell y llun, Alice Constance
Disgrifiad o’r llun,
Mae Leah Gaffey (dde) a'i chyd-actorion yn dweud geiriau pobl Porthmadog yn y ddrama

Mae llofruddiaeth merch ifanc wnaeth ysgwyd tref fechan yng ngogledd Cymru wedi ei gwneud yn destun drama sydd wedi ei llwyfannu gan fyfyrwyr yn Llundain.

'Known' yw cynhyrchiad cyntaf cwmni Snippet Theatr sydd wedi ei sefydlu gan Leah Gaffey, 24, o Borthmadog, a'i chyd-fyfyrwyr yng ngholeg Goldsmiths.

Wedi i Leah eu perswadio i wneud drama am ei thref enedigol fe dreuliodd yr actorion ifanc ddwy flynedd yn siarad gyda phobl Porthmadog i greu'r ddrama sy'n trafod sut y deliodd y gymuned gyda llofruddiaeth Ffion Wyn Roberts yn 2010. Cafodd dyn lleol, Iestyn Davies, 54 oed, ei garcharu am oes am ei lladd.

Maen nhw'n defnyddio'r dechneg theatrig verbatim o seilio sgript y ddrama ar eiriau a straeon y bobl wnaethon nhw eu cyfweld.

Fe fu Leah yn egluro sut aethon nhw ati i greu'r ddrama a chlywed am effaith y llofruddiaeth ar gymuned Porthmadog.

"Pawb yn 'nabod pawb"

Fe aethon ni i Borthmadog i gyfweld pobl y dref a holi sut fath o fywyd ydy byw yn Port a pha fath o gymuned ydi hi ac yn y blaen.

A'r dyfyniad roeddan ni'n ei gael o hyd oedd fod "pawb yn 'nabod pawb". Dyna roedd pawb yn ei ddweud, eu bod yn adnabod eu cymdogion, yn adnabod pawb oedd yn byw ar yr un stryd â chi neu'r un stâd â chi a lot o bobl yn dweud pa mor neis ydi hynny, eich bod chi'n 'nabod pawb yn y gymuned.

Ond wedyn mi ddaru lot o bobl drafod y ffaith fod 'na dri llofruddiaeth wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf - dau ym Mhenmorfa ac, yn amlwg, llofruddiaeth Ffion Wyn Roberts yn 2010.

Ro'n i'n byw adre pan ddigwyddodd y llofruddiaeth ac yn gwybod pa mor ofnadwy oedd hi bod cymuned mor fach â hon wedi gorfod delio efo hynny, ac efallai ddim yn gwybod sut i ddelio efo fo.

Ffynhonnell y llun, Snippet Theatre

"Digwyddiad ofnadwy"

Mi ges i nghwestiynu hyd yn oed achos mi wnes i gerdded pasio'r lle gafodd hi ei lladd ychydig oriau'n gynt a dwi'n cofio clywed ar y newyddion eu bod yn rhoi cyngor i ferched beidio â gadael eu tai.

Roedd yn ddigwyddiad ofnadwy i bobl orfod delio efo fo. Ar ôl i bobl ddechrau sgwrsio am lofruddiaeth Ffion nes i feddwl ei bod yn beth braf fod pobl yn siarad amdani hi ac yn cofio amdani, felly ma'r ddrama er cof amdani hi.

Tua hanner y ddrama sy'n canolbwyntio ar y llofruddiaeth. Mae hi hefyd yn bortread o gymuned fach, oherwydd y tro cynta' imi symud i Lundain y peth cynta' ddaru fy nharo oedd y ffaith fod neb yn gwybod bod yr iaith Gymraeg yn bodoli.

A'r tro cynta' imi fynd â'm ffrindiau Saesneg i Port roedden nhw wedi gwirioni fod pawb yn siarad Cymraeg a fod pawb yn sbïo arnoch chi bob tro roeddach chi'n cerdded i mewn i'r pyb!

Felly ro'n i'n awyddus iawn i wneud drama am Borthmadog, lle ces i fy magu.

Mae hi fel unrhyw gymuned fach arall mewn gwirionedd ac mae'n neis gallu dod â chymunedau bach i mewn i'r dinasoedd mawr a rhoi platfform i bobl gael rhannu eu straeon."

Roedd Known yn cael ei pherfformio yn theatr Pleasance, Llundain, ar Fedi 24-26 ac mae Snippet Theatre yn gobeithio perfformio'r ddrama mewn gwyliau yn y dyfodol agos.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol