Farage: Blaenoriaeth i adael yr Undeb Ewropeaidd
- Cyhoeddwyd

Mae'r ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd yn "rym unedig " ac yn symud tuag at fuddugoliaeth "hanesyddol", yn ôl Nigel Farage wrth annerch cynhadledd UKIP yn Doncaster.
Dywedodd arweinydd UKIP y byddai'r refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd yn adeg i roi "gwlad o flaen buddiannau plaid."
"Rwyf yn credu ein bod ar lwybr cywir i ennill buddugoliaeth hanesyddol a'r fuddugoliaeth wleidyddol bwysicaf yn ein hoes," meddai wrth gyfeirio at y refferendwm.
Roedd yn iawn, meddai, fod UKIP wedi canolbwyntio ar fewnfudo yn ddiweddar, ac mae ymdrechion ei blaid oedd wedi arwain at refferendwm ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd.
Yn ystod ei araith fe wnaeth o hefyd gyfeirio ar etholiadau'r Cynulliad ym Mai 2016.
Dywedodd fod yna un gwahaniaeth mawr rhwng yr etholiad cyffredinol yn 2015 ac etholiadau'r Cynulliad - sef cynrychiolaeth gyfrannol neu PR.
Dywedodd ei fod yn "ffyddiog o ennill seddau yng Nghymru" gyda'r bwriad o "dorri ar gonsensws clud Bae Caerdydd."
Er yn cydnabod mai ei flaenoriaeth yw gadael yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd fod yna fwy i'w blaid na dim ond Ewrop.
"Rwyf yn sicr y byddwn yn sicrhau aelodau ym mhob cornel o'r Deyrnas Unedig."