BBC Cymru Fyw

Mynediad am ddim i safleoedd hanesyddol Cymru

Published
image captionMae Castell Caernarfon ymhlith y safleoedd sydd yn agor eu drysau
Mae safleoedd hanesyddol ledled Cymru yn gwahodd ymwelwyr am ddim y penwythnos yma fel rhan o gynllun i gael pobl i ddangos diddordeb mewn hanes.
Mae'r penwythnos yn nodi diwedd cynllun 'Drysau Agored' Llywodraeth Cymru.
Mae safleoedd megis Castell Caernarfon, Carchar Rhuthun, Castell Caerffili, Abaty Ystrad Fflur a Llys yr Esgob Tyddewi oll yn agor eu drysau i'r cyhoedd am ddim.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Twristiaeth, Ken Skates, ei fod yn gobeithio y bydd y cynllun yn denu pobl i ymchwilio i "dreftadaeth ddiddorol" Cymru.