Gêm gyfartal i Forgannwg yn erbyn Sir Gaerloyw

  • Cyhoeddwyd
Colin IngramFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Roedd rhaid i Chris Cooke ddisgwyl nes y diwrnod olaf i sicrhau ei gant

Fe wnaeth Chris Cooke a Colin Ingram sgorio cant yr un i Forgannwg wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal gyda Sir Gaerloyw.

Roedd rhaid i Cooke (102 heb fod allan) ddisgwyl nes y diwrnod olaf i sicrhau ei gant, wrth i'r ymwelwyr symud o 88-0 dros nos i 365-3 erbyn diwedd y diwrnod.

Fe wnaeth Cooke ag Ingram (101 heb fod allan) sicrhau partneriaeth o 180, gyda David Payne (1-32) a Tom Smith (1-79) yr unig chwaraewyr i gael wicedi i Sir Gaerloyw.

Aneurin Donald yn cael ei redeg allan ar 35 oedd unig wiced arall y diwrnod.

Fe wnaeth Morgannwg orffen yn bedwerydd yn yr Ail Gynghrair, tra bo Sir Gaerloyw yn chweched.