BBC Cymru Fyw

Beiciwr modur wedi'i anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad

Published
image copyrightGoogle
image captionFe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A487 yn Felindre Farchog

Mae beiciwr modur wedi ei hedfan i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A487 yn Sir Benfro.

Fe wnaeth y beiciwr daro cerbyd arall am 18:50 nos Wener yn Felindre Farchog.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans bod hofrennydd wedi glanio gerllaw ac wedi hedfan y beiciwr i'r ysbyty.

Mae'r ffordd yn parhau ar gau wrth i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad.