Apêl heddlu Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae heddlu sy'n ymchwilio i gyfres o ymosodiadau rhyw yng nghanol Caerdydd wedi rhyddhau lluniau o ddyn a allai "fod o gymorth i'r ymchwiliad".
Fe ddigwyddodd un ymosodiad yn gynnar fore Iau yng ngerddi'r Gorsedd yng nghanol y brifddinas.
Dywedodd pennaeth CID Caerdydd, Ditectif Uwch Arolygydd Richie Jones: "Rydym yn credu y gallai'r dyn hwn gynorthwyo'r ymchwiliad.
"Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd yn adnabod yr unigolyn yma, neu a welodd y dyn yn ystod gyda'r nos Medi'r 23ain, neu yn oriau man y 24ain, i gysylltu â ni.
"Rydym yn credu fod gan y dyn wybodaeth a allai fod o gymorth i'r ymchwiliad."