Ymosodiad Caerdydd : Arestio dyn
- Cyhoeddwyd

Yr heddlu yn ymchwilio yng Ngerddi'r Gorsedd yng Nghaerdydd.
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i gyfres o ymosodiadau rhyw yng nghanol Caerdydd wedi arestio dyn.
Fe ddigwyddodd un ymosodiad yn gynnar fore Iau yng ngerddi'r Gorsedd yng nghanol y brifddinas.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi arestio dyn 23 oed o Gaerdydd.
Mae'n cael ei holi yng ngorsaf yr heddlu ym Mae Caerdydd.