Gôl hwyr yn llorio Wrecsam
- Published
image copyrightHuw Evans Agency
Wrecsam 3-2 Eastleigh
Mae Wrecsam wedi dioddef ergyd i'w gobeithion am ddyrchafiad ar ôl colli ar y Cae Ras.
Sgoriodd Ben Strevens gôl hwyr i Eastleigh ar ôl i Wrecsam frwydro'n galed i achub y gêm.
Roedd Wrecsam ar ei hol hi o ddwy gôl i ddim yn yr hanner cyntaf ar ôl i Jai Raison a Andy Drury sgorio i'r ymwelwyr.
Daeth ymateb Wrecsam - gol yr un i Wes York a Sean Newton, cyn i Strevens sicrhau buddugoliaeth i'r ymwelwyr.
Mae Wrecsam wedi disgyn i'r trydydd safle yn y bencampwriaeth.