Casnewydd yn ennill o'r diwedd

  • Cyhoeddwyd
casnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Caerliwelydd 0-1 Casnewydd

Mae Casnewydd yn dathlu buddugoliaeth yn y Gynghrair am y tro cyntaf y tymor hwn ar ôl curo Caerliwelydd.

Yr eilydd Tyler Blackwood oedd arwr y tim o Went - ac roedd hi'n fuddugoliaeth annisgwyl yn erbyn prif sgorwyr yr adran.

Yn ystod yr wythnos roedd y tim cartref yn brysur yn chwarae yn erbyn Lerpwl yn Anfield, ac efallai roedd blinder i'w weld yn eu perfformiad.

Ond roedd Casnewydd wrth eu boddau.

Roedd y sgoriwr Tyler Blackwood newydd gyrraedd Casnewydd - ar fenthyg o QPR -ac fe wnaeth argraff gofiadwy ar ôl 68 munud, yn penio unig gôl y gem, yn dilyn croesiad Nathan Ofori-Twumasi.