Cymru yn trechu Lloegr yng Nghwpan Rygbi'r Byd
- Cyhoeddwyd

Cymru 28-25 Lloegr
Fe wnaeth Cymru ddod yn ôl o 10 pwynt i lawr ac anafiadau lu i sicrhau buddugoliaeth enfawr yn erbyn Lloegr mewn gêm anhygoel yng Nghwpan Rygbi'r Byd.
Gareth Davies sgoriodd unig gais Cymru yn hwyr yn yr ail hanner, wrth i 23 pwynt ddod o droed seren y gêm, Dan Biggar.
Fe sgoriodd Jonny May unig gais Lloegr yn yr hanner cyntaf, gydag Owen Farrell yn cicio 20 pwynt.
Aeth Lloegr ar y blaen am y tro cyntaf yng nghanol yr hanner cyntaf, wrth i'r ddwy ochr ildio nifer o giciau cosb.
Ymateb Lloyd Williams a Gareth Davies
Fe wnaeth y ddau faswr, Biggar a Farrell, gymryd mantais o hyn, gyda'r ddau yn cicio'n berffaith tua'r pyst.
Mae 23 pwynt Biggar yn record i chwaraewr o Gymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd, gan guro 22 pwynt Neil Jenkins yn erbyn Japan yn 1995.
Lloegr yn rheoli
Roedd Lloegr ar y blaen o 22-12 gyda hanner awr yn weddill, ac roedden nhw'n edrych mewn rheolaeth.
Ond fe sgoriodd Davies dan y pyst yn dilyn cic glyfar gan ei gyd-fewnwr Lloyd Williams, oedd yn chwarae fel asgellwr oherwydd anafiadau.
Fe wnaeth hynny unioni'r sgôr ar 25-25, ac fe seliodd Cymru'r fuddugoliaeth gyda chic gosb gan Biggar bum munud o'r diwedd.
Ond fe sgoriodd Davies dan y pyst yn dilyn cic glyfar gan ei gyd-fewnwr Lloyd Williams, oedd yn chwarae fel asgellwr oherwydd anafiadau.
Fe wnaeth hynny unioni'r sgôr ar 25-25, ac fe seliodd Cymru'r fuddugoliaeth gyda chic gosb gan Biggar bum munud o'r diwedd.
Gallai Lloegr fod wedi cael gêm gyfartal yn y munudau olaf, ond fe wnaeth y capten Chris Robshaw ddewis cicio am y gornel i geisio mynd am y fuddugoliaeth, yn hytrach na cheisio'r gig anodd am y pyst.
Fe wnaeth Cymru wthio'r sgarmes symudol oddi ar y cae, ac roedd y cyfle wedi diflannu.
Mwy o anafiadau
Un peth fydd ddim yn newyddion da i Warren Gatland fydd yr anafiadau i Scott Williams, Liam Williams a Hallam Amos.
Bu'n rhaid i Scott Williams gael ei yrru o'r cae, ac roedd hi'n ymddangos bod Amos wedi datgymalu ei ysgwydd.
Roedd yr anafiadau yn golygu bod Cymru wedi gorffen y gêm gyda mewnwr (Lloyd Williams) ar yr asgell, asgellwr (George North) fel canolwr, a maswr (Rhys Priestland) yn safle'r cefnwr.
Ond mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru wedi cymryd cam enfawr tuag at y rownd gogynderfynol, gyda Lloegr yn debygol o orfod trechu Awstralia i gael gobaith o fynd trwodd o'r grŵp.
Cymru: Liam Williams; George North, Scott Williams, Jamie Roberts, Hallam Amos, Dan Biggar, Gareth Davies; Gethin Jenkins, Scott Baldwin, Tomas Francis, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (capten), Taulupe Faletau.
Eilyddion: Ken Owens, Aaron Jarvis, Samson Lee, Luke Charteris, Justin Tipuric, Lloyd Williams, Rhys Priestland, Alex Cuthbert.
Lloegr: Mike Brown; Anthony Watson, Brad Barritt, Sam Burgess, Jonny May, Owen Farrell, Ben Youngs; Joe Marler, Tom Youngs, Dan Cole, Geoff Parling, Courtney Lawes, Tom Wood, Chris Robshaw (capten), Billy Vunipola.
Eilyddion: Rob Webber, Mako Vunipola, Kieran Brookes, Joe Launchbury, James Haskell, Richard Wigglesworth, George Ford, Alex Goode.
Ymateb cefnogwyr Cymru i'r fuddugoliaeth yn Twickenham nos Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2015