Ymosodiad Caerdydd: Dyn yn y llys
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gaerdydd wedi ymddangos gerbron ynadon, wedi ei gyhuddo o geisio treisio myfyrwraig 19 oed wedi noson allan mewn bar ynghanol y ddinas.
Mae Khalid Alahmadi - 23 oed o Saudi Arabia yn wreiddiol - wedi ei gyhuddo wedi'r digwyddiad honedig yng Ngerddi'r Orsedd ger Neuadd y Ddinas a'r Amgueddfa Genedlaethol.
Gyda chymorth cyfieithydd, fe siaradodd Alahmadi gan roi ei enw a'i gyfeiriad.
Fe gadarnhaodd ei gyfreithiwr ei fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru yn Nhrefforest.
Clywodd y llys fod ganddo fisa myfyriwr, a'i fod wedi bod yn y DU ers pedair blynedd yn astudio yn Bournemouth ac Abertawe.
Ni wnaeth gyflwyno plê, ond dywedodd ei gyfreithiwr ei fod yn gwadu'r cyhuddiad.
Fe gafodd yr achos ei ohirio, a chafodd Alahmadi ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ar 12 Hydref.