Beiciwr modur yn marw mewn gwrthdrawiad ger Llangain
- Cyhoeddwyd
Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad â char ger Llangain yn Sir Gâr.
Roedd y beiciwr 55 oed, o Gaerfyrddin yn teithio ar gefn y beic modur Kawasaki ar hyd ffordd y B4312 ychydig cyn 18:30 ddydd Sul pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad â char Mercedes.
Fe gafodd y teithwyr oedd yn y car eu trin ar gyfer effeithiau sioc.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, mae teulu'r beiciwr wedi cael gwybod am y farwolaeth.