Perchennog caffi ar yr Wyddfa yn galw am ymddiheuriad

  • Cyhoeddwyd
steffan
Disgrifiad o’r llun,
Yn ôl Steffan Roberts, mae'r honiadau sydd wedi eu hamlinellu yn y llythyr yn gwbl "ddi-sail"

Mae perchennog caffi ar droed Yr Wyddfa wedi galw am ymddiheuriad gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi iddo dderbyn llythyr ganddynt, yn dweud fod aelod o'r cyhoedd wedi honni ei fod wedi ymddwyn mewn modd "negyddol" tuag at y Gymraeg.

Yn ôl Steffan Roberts, perchennog bwthyn tê Pen y Ceunant Isaf yn Llanberis, a Chymro Cymraeg o ardal Bethesda, mae'r honiadau sydd wedi'u hamlinellu mewn llythyr gafodd ei yrru ato gan un o swyddogion Comisiynydd y Gymraeg yn gwbl "ddi-sail" ac yn ymylu ar fod yn "enllibus".

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud wrth BBC Cymru Fyw nad oes dim yn y llythyr i awgrymu nad yw'r Comisiynydd wedi ymddwyn yn wrthrychol a theg.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Mae Mr Roberts wedi bod yn rhedeg 'Caffi Steffan' yn Llanberis ers 15 mlynedd

Dywedodd Mr Roberts ei fod wedi gorfod dod a chyflogaeth rhai aelodau o'i staff i ben yn ystod yr haf, a hynny oherwydd anghydfod ynglŷn â gwisg addas, a pha bryd oedd y gweithlu yn cymryd gwyliau o'r caffi.

"Fy mholisi i yw bod y staff i gyd yn gwisgo dillad plaen twt pan maen nhw'n gweithio yma, roedd y genethod yn mynnu gwisgo crysau t gyda sloganau anaddas arnynt, a all fod yn sarhaus i bobl ddi-Gymraeg, a doedd hynny ddim yn dderbyniol," meddai.

"Roedd y merched hefyd isio wythnos o wyliau'r un pryd, i fynd i'r Steddfod medden nhw wrtha i, ond mae wythnos gynta' mis Awst yn un o'n wythnosau prysura' ni yma yn y caffi, a doedd dim gobaith i mi allu caniatáu iddynt gael yr wythnos i gyd i ffwrdd, boed hynny i'r 'Steddfod neu beidio.

"Gan fy mod wedi mynnu bod y merched yn gwisgo yn fwy addas, ac wedi methu rhoi'r wythnos iddynt fynd i'r Steddfod, fe gefais fy nghyhuddo o fod yn wrth-Gymreig, sy'n gyhuddiad gwbl wallgo', gan fy mod wedi gweithio'n galed i hybu'r iaith a thraddodiadau Cymreig yn y caffi ers blynyddoedd, ac wedi cyflogi nifer o bobl leol Gymraeg ar hyd yr amser."

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd y Comisiynydd na fyddai'n briodol gwneud sylw ar achosion unigol

Yn y cyfamser, mae Mr Roberts, sydd wedi bod yn rhedeg 'Caffi Steffan' ym Mhen y Ceunant ers 15 o flynyddoedd, wedi dechrau cyflogi staff o ddwyrain Ewrop yn y caffi.

"Beth sydd wedi fy ngwylltio ydi'r ffaith fod y Comisiynydd Iaith wedi caniatáu i'w hunain i gael ei defnyddio fel arf yn fy erbyn, drwy weithredu ar yr honiadau enllibus a di-sail yma, a bod hwythau wedi ysgrifennu'r llythyr 'ma i mi yn cynnig 'sut y dylwn wella fy agwedd tuag ar y Gymraeg' heb ddim math o ymchwiliad o gwbl i'r sefyllfa.

"Maen nhw wedi penderfynu fy mod yn euog o'r honiadau cyn hyd yn oed drafod na gofyn am fy ochr i o'r stori."

'Gwrthrychol a theg'

Mae'r Comisiynydd wedi cadarnhau ei bod wedi "derbyn pryder" gan aelod o'r cyhoedd ynghylch y mater hwn. Ond mae'r Comisiynydd yn teimlo nad yw'n briodol gwneud sylw ar achosion unigol.

Fe ychwanegodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: "Gohebodd y Comisiynydd â pherchennog y busnes er mwyn cynnig cyfle i drafod y mater ymhellach ac nid oes dim yn y llythyr i awgrymu nad yw'r Comisiynydd yn ymddwyn yn wrthrychol a theg.

"Mae'r llythyr hefyd yn trafod y gefnogaeth y gall y Comisiynydd ei chynnig i fusnesau wrth iddynt ddefnyddio a datblygu defnydd o'r Gymraeg."

Disgrifiad o’r llun,
Mae Mr Roberts wedi dechrau cyflogi staff o ddwyrain Ewrop ers iddo dderbyn y llythyr