Prif Weinidog yn amddiffyn record Llafur
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Llafur Cymru, Carwyn Jones wedi amddiffyn record ei lywodraeth yng Nghymru, gan ddweud bod yr economi, a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, yn cryfhau oherwydd polisïau Llafur.
Roedd Mr Jones yn siarad wrth i'w blaid gwrdd yn Brighton ar gyfer eu cynhadledd flynyddol.
Yn ôl Mr Jones: "Rydym wedi gweld y ffigyrau gorau ar gyfer buddsoddi yng Nghymru ers 30 mlynedd. Mae gan ein pobl ifanc hyder newydd, mae diweithdra yn gostwng ac mae'r economi yn gwella."
"Mae safonau addysg yn codi, y gwasanaeth iechyd yn gwella- ac mae hyn oll yn digwydd er gwaethaf toriadau o 10% i'n cyllideb gan lywodraeth y DU.
Dywedodd Carwyn Jones, fydd yn arwain ymgyrch ei blaid yn etholiadau'r Cynulliad yn 2016: "Mae ein gwrthwynebwyr yn cyhuddo ni o golli stem."
"Mae'n rhaid i ni ddangos bod gennym ni syniadau newydd, ein bod yn barod i arwain Cymru am bum mlynedd, a thu hwnt i hynny hefyd."
Wrth annerch ffyddloniaid y blaid yn y gynhadledd roedd gan Mr Jones air o gysur i arweinydd newydd Llafur, Jeremy Corbyn.
"Mae yna lot o eiriau dwl wedi cael eu 'sgwennu am uchelgais etholiadol Llafur yn dilyn buddugoliaeth Jeremy.
"Gadewch i mi ddweud- fel rhywun sydd wedi ennill etholiad arweinyddiaeth ac etholiad Cynulliad - mae unrhyw un sydd yn medru ennill 60% o'r bleidlais o ddifri' ynglŷn ag ennill etholiadau."