Wedi'r fuddugoliaeth: Argyfwng anafiadau
- Cyhoeddwyd

Mae carfan Cymru yn wynebu argyfwng anafiadau yn dilyn y fuddugoliaeth fawr yn Twickenham nos Sadwrn.
Mae'n ymddangos na fydd Scott Williams na Hallam Amos yn medru chwarae eto yn y gystadleuaeth, ac mae amheuon am ffitrwydd Liam Williams ar ôl iddo gael ergyd i'w ben.
Cadarnhaodd hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards, fod gan Scott Williams ac Amos "anafiadau tymor hir". Mae'n amheus a fydd Liam Williams yn barod i wynebu Fiji ddydd Iau.
Awgrymodd yr hyfforddwr Warren Gatland ei fod yn ystyried dewis George North fel canolwr er mwyn llenwi'r bwlch ymhlith olwyr Cymru.
Ar ôl y gêm dywedodd George North: "Os oes angen fe wna i chwarae yn y canol. Rwy'n barod i addasu."
Dywedodd Shaun Edwards na fyddai "gormod " o'r tîm wynebodd Lloegr yn cael eu gorffwyso yn erbyn Fiji.
Bydd Cymru yn cyhoeddi newidiadau i'r garfan ddydd Llun. Ymhlith yr opsiynau sy'n cael eu hystyried - galw James Hook, Gareth Anscombe neu Eli Walker yn ôl i'r garfan.