Ffordd newydd y cymoedd
- Cyhoeddwyd

Mae cymal diweddara' ffordd Blaenau'r Cymoedd yn cael ei agor yn swyddogol yn dilyn gwariant o £158 miliwn.
Cafodd 7.8 km o'r ffordd rhwng Brynmawr a Thredegar ei ledu er mwyn gwella diogelwch, ac atal tagfeydd yn yr ardal.
Mae'r gwaith yn rhan o gynllun ehangach i wario £800 miliwn er mwyn gwella'r A465 o'r Fenni i Hirwaun.
Ariannwyd y gwaith gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru. Fe ddywedodd y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth Edwina Hart AC: "Mae gwella'r isadeiledd trafnidiaeth yn allweddol er mwyn gwella economi Cymru.
"Mae ffordd Blaenau'r Cymoedd yn hollbwysig i'n cynlluniau i adfywio'r ardal.
"Mae'r ffordd yn gyswllt sylfaenol rhwng gorllewin Cymru a chanolbarth Lloegr. Bydd y ffordd ddeuol newydd yn gwella diogelwch i holl ddefnyddwyr y ffordd hefyd."
.