Saethu Aberpennar: Marwolaeth dyn
- Cyhoeddwyd

Yr heddlu yn ymchwilio ym mis Gorffennaf
Bu farw dyn 43 oed o Aberpennar yn dilyn digwyddiad arfog ger y dre ym Mis Gorffennaf.
Saethwyd Mark Jones yn y digwyddiad ac roedd yn cael triniaeth yn ysbyty Treforys.
Yn dilyn y digwyddiad fe arestiwyd dau ddyn. Fe gyhuddwyd Stephen Bennett o Bontypridd, a Edward Bennett o Aberpennar o geisio llofruddio, ac o fod â gwn yn eu meddiant.
Gorchmynnwyd cadw'r ddau yn y ddalfa mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Awst.
Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Ceri Hughes "Rydym yn meddwl am deulu Mark, sydd yn derbyn cefnogaeth gan swyddog cyswllt yr heddlu yn ystod y cyfnod anodd yma.
"Byddwn yn cynnal adolygiad o'r cyhuddiadau sydd yn wynebu'r ddau ddyn yn y ddalfa".